Dathlu canmlwyddiant ers sefydlu adran gyntaf yr Urdd
Dathlu canmlwyddiant ers sefydlu adran gyntaf yr Urdd
Mae'r Urdd yn dathlu canmlwyddiant ers sefydlu adran gyntaf y mudiad ddydd Gwener.
Fe wnaeth pentref Treuddyn yn Sir y Fflint dathlu canmlwyddiant ers sefydlu adran gyntaf erioed y mudiad ieuenctid yn 1922.
Roedd Archddewrydd Cymru, Myrddin ap Dafydd, yn bresennol yn y seremoni i ddadorchuddio cofeb arbennig a bydd yn rhannu stori merch 16 oed, Marian Williams, a wnaeth ysbrydoli ieuenctid lleol i ymuno â'r adran.
Roedd Marian Williams yn gerddor ac awdures a oedd yn ymddiddori mewn ysgrifennu dramâu ar gyfer plant gan gyhoeddi eitemau'n gyson yng nghylchgrawn yr Urdd.
Bydd y gofeb yn cael ei lleoli yn Neuadd y Pentref a bydd yn cynnwys darluniau a llinell amser o'r dathliadau yn y gorffennol.
Fe gafodd cyllid ei sicrhau gan Adran Dwristiaeth a Hamdden Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Flint a Chyngor Cymuned Treuddyn, ac mae'r gofeb wedi ei adeiladu gan y saer maen lleol, Ian Davies, a'i ddylunio gan Bill Smuts a Lorna Jenner.
Dywedodd Ysgrifennydd Pwyllgor Eisteddfod Treuddyn, Ceinwen Parry, fod "nifer o gerrig milltir yr Urdd wedi eu dathlu yn y pentref dros y blynyddoedd, gan nodi pen-blwydd yr Urdd yn 50, 70, 75 a 90 - digwyddiadau sydd wedi eu dal ar gamera ac rydym am i'r dathliad canmlwyddiant hwn fod yr un mor gofiadwy ac arbennig."