Bachgen 14 oed o Wynedd yn bencampwr byd cic focsio
Bachgen 14 oed o Wynedd yn bencampwr byd cic focsio
Mae bachgen 14 oed o Wynedd yn bencampwr byd cic focsio.
Enillodd Sion Burkey o Fangor Bencampwriaeth Byd Cic Focsio y WMO dan 15 oed yn Sunderland ddechrau mis Hydref.
"Y ffeit ydi dau funud a dwy rownd, gyda un funud o brêc yn y canol a nesh i ga'l pedwar ffeit a nesh i ennill nhw i gyd, un boi o England, un boi o Cymru, un boi o India ac y boi olaf o Canada," meddai.
Ychwanegodd Sion ei bod hi'n "grêt i allu dweud bod fi'n pencampwr y byd".
Er bod Sion wedi amau ei hun i ddechrau, roedd mwynhau'r profiad yn hollbwysig i'w lwyddiant.
"O'dd o'n grêt, d'on i'm yn meddwl fyswn i'n gallu oherwydd edrych ar y training o pobl eraill, oeddan nhw'n edrych yn amazing ond edrych ar un fi, o'dd 'na self-doubt ond nesh i jyst get on the mat ag enjoio fo," meddai.
Ni ddychmygodd Sion erioed y byddai'n cyflawni rhywbeth fel hyn.
"O'dd y buzz yn amazing, o'dd teulu fi mor prowd i fi neud hwn ac i'r gwaith dwi 'di neud idda fo a fyswn i erioed wedi dychmygu gallu gwneud hyn bum mlynedd yn ôl," meddai.
"O'dd o'n amazing i ennill rwbath hynna mawr."
Ac yntau ond yn 14 oed, parhau i ddysgu a datblygu ydi'r bwriad i Sion, gyda'r nod o "fynd am un nesaf blwyddyn nesaf ac yr un wedyn".