Teuluoedd yn galw am fwy o gyfrifoldeb gofal gan brifysgolion wedi hunanladdiadau
Mae 25 teulu sydd wedi colli eu plant i hunanladdiad pan oedden nhw’n astudio yn y brifysgol yn galw am ddeddf newydd fydd yn rhoi mwy o gyfrifoldebau gofal i sefydliadau addysg uwch.
Fel mae hi’n sefyll, yn wahanol i ysgolion a gweithleoedd, nid oes gan brifysgolion gyfrifoldeb ffurfiol dros ofal eu myfyrwyr. Mae hyn yn golygu bod prifysgolion yn cael eu cynghori i gysylltu â theuluoedd a ffrindiau myfyrwyr os oes ganddyn nhw bryderon difrifol drostyn nhw, ond nid yw’r cyngor yma’n orfodol.
Mae teuluoedd myfyrwyr sydd wedi cymryd eu bywydau eu hunain pan oedden nhw yn y brifysgol yn pryderu nad yw’r cyngor yma’n rhoi digon o gyfrifoldeb ar sefydliadau addysg uwch i ofalu am eu myfyrwyr.
I geisio newid y drefn, mae deiseb wedi cael ei chreu gan y grŵp The LEARN network i orfodi prifysgolion i dderbyncyfrifoldeb gofal cyfreithiol dros eu myfyrwyr.
Hyd yn hyn, mae’r ddeiseb wedi derbyn dros 4,000 o lofnodion. Mae’n rhaid i ddeiseb dderbyn 10,000 o lofnodion cyn i Lywodraeth San Steffan ymateb iddi.
Mae Hamish Grime yn frawd i Phoebe Grime, fu farw o ganlyniad i hunanladdiad ym Mhrifysgol Newcastle.
Mewn fideo ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd: “Mae prifysgolion yn honni bod lles a diogelwch yn flaenoriaeth iddyn nhw, ond cymerwch esiampl fy chwaer. Ar ôl datgelu ei chynllun hunanladdiad lle’r oedd yn dymuno bod y boen yn dod i ben, derbyniodd hi ddim cwnsela am saith mis.
“Yng nghwêst y crwner, fe wnes i gnoi fy nhafod wrth i lefarydd y brifysgol ddweud ei fod heb sylweddoli bod Phoebe yn dioddef yn ddifrifol, oherwydd doedd yna ddim y medrwn i ei wneud oherwydd does gan brifysgolion dim cyfrifoldeb gofal dros eu myfyrwyr."
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, bu farw 319 myfyriwr mewn prifysgolion Prydeinig o ganlyniad i hunanladdiad rhwng y blynyddoedd academaidd 2017 a 2020.
Dywedodd Gwenllïan Davies, myfyrwraig Seicoleg o Brifysgol Efrog wrth ITV Cymru: “Dwi’n credu bod yr ymgyrch yn un pwysig i’w gael, oherwydd dylai fod rhyw fath o gyfrifoldeb gan y brifysgol i edrych ar ôl unigolion sydd yn mynd i’r brifysgol yna i wneud yn siŵr eu bod nhw yn gallu gwneud gwaith da yn y brifysgol.
“Mae yna gymaint o helynt wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf gyda haint Covid ac wrth i addysg symud ar-lein, mae pobl yn teimlo yn fwy ynysig” meddai.
Wrth siarad am ei phrofiad ei hun dywedodd Miss Davies: “Mae Prifysgol Efrog yn wych am gefnogi pobl i fynd ymlaen ac i drio pethau newydd. Mae yna gymaint o schemes a bursaries a phethau gwahanol ond pan mae hi’n dod i gymorth, mae cymorth yn gymaint mwy na hynny”.
Dywedodd llefarydd Prifysgolion Cymru, y corff sydd yn cynrychioli prifysgolion y wlad: “Mae lles a iechyd myfyrwyr yn flaenoriaeth i brifysgolion yng Nghymru ac rydym eisiau sicrhau bod prifysgolion yn lleoliadau diogel i astudio, gweithio a byw ynddyn nhw.
“Does dim byd yn fwy dinistriol i gymuned prifysgol na marwolaeth myfyriwr trwy hunanladdiad. Fel sector, mae angen inni wneud popeth o fewn ein gallu i leihau’r risg o hunanladdiad a hunan-niwedio difrifol.
"Gan fod disgwyl i brifysgolion gydymffurfio â mesurau a rheolau iechyd a diogelwch o dan y Ddeddf Gydraddoldeb, nid ydym yn credu bod dyletswydd ofal gyfreithiol yn angenrheidiol, nac y byddai mor effeithiol â'r gofal a ddarperir eisoes gan brifysgolion.
“Mae prifysgolion yn mynd y tu hwnt i'w gofynion cyfreithiol i flaenoriaethu iechyd meddwl a lles eu staff a’u myfyrwyr, i ddarparu gwasanaethau cymorth i’r rhai sydd mewn anhawster, ac i weithio’n agos gyda gwasanaethau’r GIG.”