
Cyngor Cymry Qatar cyn Cwpan y Byd
Cyngor Cymry Qatar cyn Cwpan y Byd
Gyda mis yn unig i fynd tan y bydd Cwpan y Byd Qatar 2022 yn dechrau, mae rhai Cymry wedi bod yn rhannu eu profiadau o fyw yno.
Mae Megan Jones yn wreiddiol o Fotwnnog ond wedi bod yn byw yn Qatar ers 24 o flynyddoedd, gan dderbyn ei haddysg yno cyn mynd ymlaen i weithio gyda cheffylau.
Mae hi bellach yn gweithio i ewythr Brenin Qatar gyda ei geffylau rasio yn yr adran frîdio, ac yn byw gyda ei merch dafliad carreg i ffwrdd o Stadiwm Al-Rayyan - y stadiwm lle bydd Cymru yn chwarae eu tair gêm grŵp.

"I fod yn barchus iddyn nhw, ma' nhw'n gofyn i ni beidio gwisgo strapia' tena', t-shirts seis normal yn iawn ond dim byd uwch na'ch pen-glin os 'dach chi'n gwisgo siorts neu sgert," meddai Megan.
"Ma' 'na rei yn g'neud weithia', pan 'dach chi isio mynd i'r fatha shopping malls, ma' nhw'n gofyn i chi plis i roi cardigan neu rwbath drosodd.
"'Dan ni 'di arfar efo hynny wan, dwi'n gwbo' bo' pobl yn dod, ma' nhw'n poeni amdana fo, does na'm byd i'w boeni, does na'm byd cas amdana fo."
Mae chwaer Megan, Sian, hefyd yn byw yn yr un ardal â'i chwaer, ac yn rhedeg ysgol farchogaeth.

Er y feirniadaeth mae'r wlad wedi ei chael yn sgil ei record hawliau dynol, dydy Sian ddim yn credu bod hyn yn hollol deg.
"Ma'r wlad 'ma 'di cha'l hi'n ofnadwy, ma' pobl 'di bod yn deud bod Qatar yn wlad fach, dio'm yn barod amdana fo," meddai.
"Ma' nhw'n trin 'u gweithwyr yn ddrwg - fedri di gytuno, yndyn, ma' nhw, ond fedri di hefyd fynd adra a sbïo ar y ffaith nad oes gen ti homeless ar y strydoedd yma, ma' 'na supportio lot, ma' 'na lot o pros and cons.
"Ma' pawb â'u hawl i ryddid yma, fyswn i'n deud, ond eto, jyst i parchu ffordd nhw ydi o, di nhw ddim isio cael eu tynnu fewn idda fo."
Bydd llawer o gefnogwyr Cymru wedi eu lleoli yn Dubai, ac yn teithio oddi yno i Qatar.
Un sy'n byw yno ydi Elinor Davies Farn, sy'n wreiddiol o Aberystwyth ond bellach yn rhedeg cwmni gwallt Olew ac wedi ymgartrefu yn Dubai, a dywedodd wrth Newyddion S4C fod y realiti o fyw yno yn wahanol i'r hyn mae pobl yn ei ddychmygu.
"Dwi'n meddwl ma' lot o bobl siwr o fod yn meddwl fod e'n rili strict yma ond dyw e ddim," meddai Elinor.
Ychwanegodd bod "yn rhaid i chi obviously fod yn parchus ond does dim rhaid i chi rili fel menyw coverio lan o gwbl".
"Dwi'n gweld bob math o gwisg yma so ma' fe jyst fel yr un peth â bod yn Caerdydd ar nos Sadwrn so s'dim rhaid i neb becso amdano hwnna," meddai.
Yn ôl Elinor, mae prisiau alcohol y wlad yn lot drytach ac mae angen mynd i westai er mwyn archebu alcohol yn ogystal â'r ffaith nad oes yna unrhyw alcohol mewn archfarchnadoedd.
"Ma' rhaid i chi mynd i siop, ma' nhw yn y malls a pethe nawr so ma' nhw'n lot mwy cyffredin na beth o'dd nhw so ma rhaid i chi dangos passport chi a wedyn chi'n gallu prynu fel gwin, spirits, unrhyw beth chi moyn ond ma' nhw yn mwy drud," meddai Elinor.
O ran y sefyllfa yfed yn Qatar, fe wnaeth Megan argymell cefnogwyr i fod yn wyliadurws a chymeryd gofal wrth yfed yno.
"Ma' 'na fan zones lle ma' nhw'n mynd i roi alcohol er mwyn i pobl ga'l ond dim i fod allan, dim yn y gema'.
"'Dach chi isio trio peidio pan 'dach chi allan, os 'dach chi 'di c'al rywfaint a wedyn dod allan, 'di hynny ddim yn syniad da 'chos ma' nhw'n cymyd hynny reit amharchus 'chos dydyn nhw ddim yn yfad.
"O'r blaen, o'dd na sôn bo' 'na ddim alcohol o gwbl yn mynd i fod so ma' nhw 'di g'neud rywfaint er mwyn cadw pobl yn hapus ond ma' nhw'n gofyn i ni barchu hynny hefyd.
Bydd Cymru yn wynebu'r UDA ar 21 Dachwedd cyn mynd ymlaen i herio Iran a Lloegr.