Dyn gafodd ei gamdrin yn hiliol ym Mangor yn galw am gosbau llymach
Dyn gafodd ei gamdrin yn hiliol ym Mangor yn galw am gosbau llymach
Mae dyn gafodd ei gamdrin yn hiliol mewn clwb nos ym Mangor wedi dweud wrth Newyddion S4C bod angen cosbau llymach i droseddau casineb hiliol.
Cafodd Ebehitale Igene (ond sy’n cael ei alw ar lafar yn Abel) ei gam-drin yng nghlwb nos Cube ar dri achlysur fis Mawrth.
Fe gafodd ffilm o'r trydydd ymosodiad ei bostio ar gyfryngau cymdeithasol gan yr ymosodwr ei hun.
Fis diwethaf ar ôl pledio’n euog, mi gafodd Tomos Wilson, sy'n 19 oed o Star ger Gaerwen ar Ynys Môn ddedfryd o chwe mis o garchar wedi ei gohirio.
“Pam fyddech chi'n fy ngweld ac yn fy nghasáu oherwydd lliw fy nghroen? Does dim ots ble rydyn ni’n dod, rydyn ni i gyd yn gwaedu'r un peth,” meddai Mr Igene.
“Fe wnaeth y weithred hon fy ngwneud yn ddigalon, yn hunanladdol, ac effeithiodd fy hapusrwydd a fy ngyrfa.”
“Fe bostiodd (Tomos Wilson) fideo heb fy nghaniatâd a fy mychanu tair gwaith.
“Ac yna mae’n cael chwe mis o ddedfryd wedi ei ohirio.
“Dylai’r rhai sydd wedi’u dal yn cam-drin pobol yn hiliol ddysgu gwers a chael eu cosbi yn ôl y gyfraith.”
Mi symudodd Abel i Brydain o Nigeria dair blynedd yn ôl. Roedd ganddo radd mewn astudiaethau busnes, ond yn awyddus i chwilio am waith tu hwnt i’w famwlad. Ei uchelgais oedd astudio’r gyfraith yma.
Mae o rŵan yn byw yn Llangefni efo’i bartner, Nicola Owen, a’i phlant hi ac mae ganddyn nhw ferch fach blwydd oed.
“Fi sydd wedi delio efo bob dim a trio supportio fo mor gora a be dwi’n gallu. Dwi erioed wedi gorfod dealio efo hyn. Dwi’n wyn so dwi ddim yn gwybod sut peth ydio go iawn nacdw. Mae o’n afiach de.”
“Do’n i’m yn disgwyl i wbath fel hyn ddigwydd iddo fo achos mae o’n ffrind i bawb”
'Un o'r achosion o gamdrin hiliol fwyaf ffiaidd'
Disgrifiodd un swyddog heddlu yr ymosodiad fel un o'r achosion o gamdrin hiliol ‘fwyaf ffiaidd’ iddo ei weld yng ngogledd Cymru .
Cyfaddefodd Wilson i un cyhuddiad o ymosodiad hiliol, dau gyhuddiad o aflonyddu hiliol yn erbyn Mr Igene, a chyhuddiad pellach o aflonyddu ar sail hil yn erbyn swyddog diogelwch y tu allan i siop cebab ym Mangor.
Fe gafodd ddedfryd o 20 wythnos wedi ei gohirio a gorchymyn i dalu iawndal o £500 i'w ddioddefwr.
Roedd Nicola wedi ei synnu mai gŵr ifanc lleol oedd yn gyfrifol am gam-drin ei phartner.
“Dwi’n siŵr bo fi mwy shocked ei fod o mor ifanc”
“Cause ma pobol hynach wedi cael eu magu yn wahanol. Mae pethau ma’ nhw’n coelio yn wahanol i be ’da ni’n coelio”
“Os fasa fo (Abel) wedi deud wrtha fi it was a seventy-year-old man that did it, faswn i ddim yn shocked ond odd o’n hogyn ifanc”
“Ma’n shwr ’i fod o wedi bod yn ’rysgol efo pobol du, a dal i neud o. Ti’mbo, dyna nath ddychryn fi.”
Dywedodd Pennaeth y Gyfraith, Prifysgol Glyndwr, Wrecsam, Dylan Rhys Jones, fod ynadon yn gweithio o fewn canllawiau llym a osodwyd gan lywodraeth y DU.
“Ar hyn o bryd be ma’r ynadon yn neud ydi gweithio dan y canllawia maen nhw wedi derbyn.
“Os ydi llywodraeth yn y dyfodol yn mynd i ystyried rhoi mwy o bwyslais ar sicrhau nad ydi troseddau o’r fath yma yn digwydd, hwyrach fod angen codi y ddedfryd yn uwch.
“A bod angen sicrhau fod cyfnodau yn y carchar yn gyfnodau hirach.”
“Yn anffodus, fel ma pethau ar hyn o bryd mae’r ynadon ond yn gallu gweitho o fewn y terfynau maen nhw’n derbyn gan y llywodraeth.
“Ac felly os oes angen newid hynny, yna mi ddylai ystyriaeth gael ei roi i hynny.”
Mae'r Cyngor Dedfrydu, sef corff sy'n goruchwylio canllawiau, yn disgrifio dedfrydau gohiriedig fel "cosb ac ataliad."
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasnaeth Erlyn y Goron fod "troseddau casineb yn wirioneddol ffiaidd ac yn cael effaith andwyol sylweddol ar ddioddefwyr a’r gymuned ehangach.
“Mae’r CPS wedi ymrwymo i fynd i’r afael â throseddau casineb o bob math pan maen nhw’n pasio ein prawf cyfreithiol ac yn achosi pryder enfawr i holl ddioddefwyr troseddau casineb.”
Dywedodd Mr Igene nad oedd hynny'n fawr o gysur iddo gan ei fod ei fywyd ar chwal oherwydd yr ymosodiadau.
"Mae pobl yma yn groesawgar," meddai.
Ond roedd bellach yn "ofnus pan es i allan.
“Oherwydd y trawma, oherwydd y boen rydw i wedi bod drwyddo, oherwydd yr hyn mae Tomos wedi'i wneud i wneud i mi deimlo nad oes croeso i mi yma.
“Mae mynd allan ar y stad yma, efallai i le fel siop, mae fel rhyfel i mi.
"Dydw i ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd nesaf."
'Amser i bethau newid'
Mae Nicola yn deud fod perthynas iddi wedi ei rhybuddio y byddai’r teulu’n cael eu cyffwrdd gan hiliaeth rhywdro.
"Pan fydd babi chdi ’di cael ei eni, nei di sylwi pwy sydd yn racists a pwy sydd ddim - efo’r ffordd maen nhw’n sbio ar y babi.
“Ac mai’n deud y gwir. Dwi ’di bod ar bws o’r blaen, a’r hen ddynes ma’n sbio ar merch fi fel bod hi’n afiach.
“Esh i siopa efo chwaer fi blwyddyn dwetha, ac un dynas yn mynd all the way round, ’mishio pasio ni am bod hogan bach fi yn y trolley.
“Ma’n amser i bethau newid achos dio’m yn fair ar bobol du cael hyn.
“Mai’n two thousand and twenty-two a bo rhywun yn medru siarad fela efo person du, o’n i’n gobsmacked de”
Mae Newyddion S4C wedi ceisio cysylltu efo Tomos Wilson ac yn ôl ei gyfreithiwr, fel rhan o’i ddedfryd mi gafodd o orchymyn dwy flynedd i beidio â chysylltu gydag Abel Igene, boed hynny’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.
Doedd o ddim am wneud sylw pellach.