
Marwolaethau Llangolman: Yr heddlu i gynnal adolygiad fforensig o dystiolaeth
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cychwyn adolygiad fforensig o ddeunydd a gadwyd mewn cysylltiad â marwolaethau brawd a chwaer, Martha a Griff Thomas, yn Ffynnon Samson, Llangolman, Sir Benfro yn 1976.
Penderfynodd rheithgor mewn cwest ym mis Chwefror 1977 fod Griff Thomas, 73, wedi llofruddio ei chwaer Martha (Pati) Thomas , 70, yn dilyn ffrae cyn rhoi ei hun ar dân. Cafodd rheithfarn agored ei chofnodi yn achos Mr Thomas.
Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd yr heddlu eu bod wedi cwblhau'r gwaith o nodi pa ddeunydd oedd ar ôl o'r cyfnod, a'u bod wedi cynnal archwiliad gyda chymorth gwyddonwyr fforensig.
Technegau modern
Yn seiliedig ar y cyngor diweddaraf, dywed yr heddlu bod modd credu "y gellir gweithredu technegau modern i sefydlu pa un ai a oes tystiolaeth ychwanegol yn bresennol ar nifer cyfyngedig o eitemau a allai fod yn berthnasol i’r achos hwn."

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Paul Jones: “Yn ystod y deugain mlynedd diwethaf, gwelwyd datblygiadau sylweddol mewn gwyddoniaeth fforensig, a allai roi gwybodaeth ychwanegol mewn achosion mor hen â hyn hyd yn oed.
"Er bod yr ymchwiliad ar y pryd yn drylwyr, roedd y wyddoniaeth fforensig yn gyfyngedig o’i chymharu â heddiw, a byddwn ni’n archwilio pa un ai a all technegau modern daflu goleuni pellach ar y digwyddiadau yn Ffynnon Samson yn 1976.
“Ar hyn o bryd, ni wyddwn pa atebion, os o gwbl, fydd yr adolygiad fforensig yn rhoi inni, ond rwy’n cadw meddwl agored. Byddwn ni’n parhau i roi gwybod i’r teulu am unrhyw ddatblygiadau.”
Fis Ebrill 2022, cafodd gwylnos ei chynnal yng nghapel Rhydwilym ger Llangolman, i bwyso am ymchwiliad newydd i farwolaethau'r brawd a chwaer yn 1976.