Penodi Jeremy Hunt yn Ganghellor y Trysorlys yn lle Kwasi Kwarteng
Mae Jeremy Hunt wedi ei benodi gan y Prif Weinidog yn Ganghellor y Trysorlys.
Daw hyn wedi i Kwasi Kwarteng gael ei ddiswyddo ddydd Gwener yn sgil tro pedol ar y gyllideb fechan.
Mr Hunt yw'r pedwerydd Canghellor mewn ychydig dros dri mis yn dilyn ymddiswyddiad Rishi Sunak ym mis Gorffennaf a diswyddiadau Nadhim Zahawi ym mis Medi.
The Rt Hon Jeremy Hunt MP @Jeremy_Hunt has been appointed Chancellor of the Exchequer @HMTreasury. pic.twitter.com/bldKWr3crG
— UK Prime Minister (@10DowningStreet) October 14, 2022
Mae Jeremy Hunt yn cael ei weld fel un o wynebau mwyaf profiadol y Ceidwadwyr gan ei fod wedi gwasanaethau mewn sawl rôl dan David Cameron a Theresa May.
Fe gollodd yn erbyn Boris Johnson mewn pleidlais o aelodau Ceidwadol i fod yn arweinydd y blaid yn 2019.
Roedd yn Ysgrifennydd Diwylliant rhwng 2010 a 2012 wrth i'r Gemau Olympaidd ddod i Lundain.
Fe hefyd oedd y Gweinidog Iechyd rhwng 2012 a 2018 cyn gwasanaethu fel Ysgrifennydd Tramor rhwng 2018 a 2019.
Ers 2020, mae Mr Hunt wedi bod yn Gadeirydd ar Bwyllgor Dethol Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Diswyddo Kwasi Kwarteng
Ar ôl derbyn cais y prif weinidog iddo ymddiswyddo fel Canghellor ddydd Gwener, fe ddywedodd Kwasi Kwarteng mewn llythyr i Ms Truss ei fod wedi derbyn yn swydd gan wybod fod y llywodraeth yn wybebu sefyllfa "hynod o anodd, gyda chynnydd mewn cyfraddau llog byd-eang a phrisiau ynni.
"Ond roedd eich gweledigaeth am optimistaeth, twf a newid yn gywir. Fel rwyf wedi dweud sawl tro yn ystod yr wythnosau diwethaf, nid oedd dilyn y status quo'n opsiwn. Ers yn rhy hir mae'r wlad hon wedi dioddef cyfraddau twf isel a threthu uchel - mae'n rhaid i hyn ddal i newid os yw'r wlad hon i lwyddo."
Sefyllfa economaidd
Ychwanegodd fod y sefyllfa economaidd wedi newid yn sylweddol ers iddo gyhoeddi'r gyllideb fechan ar 23 Medi, a'i fod, gyda swyddogion y Trysorlys a Banc Lloegr wedi ymateb i'r datblygiadau hyn.
"Mae'n bwysig nawr ein bod yn symud yn ein blaen i bwysleisio ymrwymiad eich llywodraeth i ddisgyblaeth gyllidol."
Dywedodd ei fod wedi bod yn ffrind a chydweithiwr i'r prif weinidog ers blynyddoedd maith, ac yn ystod yr amser hynny roedd wedi gweld "ymrwymiad a phenderfynoldeb" Liz Truss.
"Rwyf yn credu mai eich gweledigaeth chi yw'r un gywir", meddai, ac fe ychwanegodd ei fod wedi bod yn fraint i wasanaethu fel Canghellor.
Mewn ymateb, dywedodd Ms Truss wrth Kwasi Kwarteng mewn llythyr ei bod wedi ei thristau o'i golli o'i llywodraeth.
"Rydym yn rhannu'r un weledigaeth am y wlad a'r un argyhoeddiad cadarn am anelu at dwf."
Ychwanegodd ei fod wedi bod yn Ganghellor mewn cyfnod hynod o heriol yn fyd-eang.
Dywedodd ei fod wedi bod o gymorth i deuluoedd sydd yn gweithio wrth gael gwared ar y cynnydd mewn taliadau Yswirian Cenedlaethol, ac fe nododd nifer o bolisïau lle'r oedd hi'n falch o'i gyfraniad fel Canghellor.
"Mae gen i barch dwf am y penderfyniad yr ydych wedi ei wneud heddiw. Rydych wedi rhoi buddiannau'r genedl yn gyntaf," meddai.
Llun: Ted Eytan/Flickr