Newyddion S4C

Comisiynydd y Gymraeg newydd gyda 'llawer o waith' i'w wneud

13/10/2022
Efa Gruffudd Jones

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod gan Gomisiynydd newydd y Gymraeg "lawer o waith" i'w wneud ynglŷn â safonau'r iaith. 

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae'n rhaid i'r Comisiynydd newydd fod yn "fwy cadarn" gyda chyrff cyhoeddus sydd yn methu cydymffurfio gyda safonau'r Gymraeg. 

Yn ddiweddar, cafodd Cyngor Sir Fynwy ei beirniadu gan swyddfa'r Comisiynydd am newid ei bolisi arwyddion stryd i olygu na fydd enwau Cymraeg yn cael eu cynnwys ar arwyddion newydd. 

Mewn cyfarfod o Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol ddydd Iau, fe wynebodd Efa Gruffudd Jones gwestiynau gan Aelodau Seneddol.

Mae Efa Gruffydd Jones ar hyn o bryd yn Brif Weithredwr Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol a hi yw'r ymgeisydd sy'n cael ei ffafrio ar gyfer swydd y Comisiynydd gan Lywodraeth Cymru.

"Fy nymuniad i bydde archwilio efallai sut mae modd defnyddio'r swydd a'r rôl a'r mesur i'w lawn botensial er mwyn cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg," meddai.

"Dwi'n gyffrous iawn o feddwl am y posibilrwydd y bydda i'n gallu cyflawni'r rôl ac y byddwn i wrth gwrs yn gwneud hynny hyd eithaf fy ngallu."

Dywedodd cadeirydd Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith, Aled Powell, fod y Llywodraeth wedi bod yn "boenus o araf" yn cyflwyno safonau iaith i gyrff newydd fel cwmnïau dwr a thrafnidiaeth gyhoeddus.

"Os ydy hawliau honedig defnyddwyr y Gymraeg i gael eu parchu, mae angen sicrhau bod canlyniadau i gyrff sy’n methu â chydymffurfio â’u safonau," meddai. 

"Mae o fewn gallu’r Comisiynydd i ddirwyo cyrff am dorri’r Safonau, ond dydy’r Comisiynydd erioed wedi gwneud hynny.

"Mae'n hanfodol felly bod y Comisiynydd newydd yn gwneud anghenion a hawliau pobl yn ganolog i'w gwaith, ac yn fwy cadarn wrth ymdrin â chyrff sy’n torri’r Safonau er mwyn sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg yn gwella.”

Dywedodd swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ni fyddant yn gwneud sylw i'r hyn dywedodd Cymdeithas yr Iaith. 

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Llywodraeth Cymru am ymateb. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.