Un o wynebau'r Llinell Las yn annog gofal wrth yrru dros y Nadolig
Un o wynebau'r Llinell Las yn annog gofal wrth yrru dros y Nadolig
Mae un o ymchwilwyr gwrthdrawiadau mwyaf profiadol gogledd Cymru yn annog pobol i beidio ag yfed a gyrru er mwyn osgoi “trychineb” dros gyfnod y Nadolig.
Mae Gordon Saynor wedi bod yn aelod o Heddlu Gogledd Cymru ers ymuno â’r llu yn 22 oed yn 1976.
Ers 1994, mae Mr Saynor wedi bod yn cynnal ymchwiliadau i wrthdrawiadau ar ffyrdd gogledd Cymru.
Roedd 2% yn llai o wrthdrawiadau yng Nghymru yn 2023 na’r flwyddyn flaenorol, a 25% yn llai na’r flwyddyn cyn pandemig Covid, yn 2019.
Er hynny, bu farw 98 o bobl mewn 87 o wrthdrawiadau yng Nghymru, gyda 23 o’r gwrthdrawiadau hynny yn y gogledd.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Mr Saynor: “Ar ddiwedd y diwrnod, trïo gwneud y ffyrdd yn saff ydan ni, i bawb eu defnyddio. 'Da ni’n tynnu ymlaen at y Nadolig a’r neges ydi i beidio yfad a gyrru.
“Mae 'na drychineb adeg yma’r flwyddyn yn rheolaidd a 'sa ni’n gobeithio does 'na’m byd fel ‘na yn digwydd eleni.
'Dylanwad cyffuriau'
Yn ôl Mr Saynor, sydd wedi gweithio fel plismon ym Mhwllheli a phentrefi cyfagos am dros ddegawd, mae yna gynnydd hefyd mewn ‘digwyddiadau domestig’ dros y cyfnod.
“Da ni’n gobeithio peidio cael cyfnod prysur. Y ffordd ‘da ni’n deud o’n aml – trïwch roi ni allan o waith.
"Sa chi’n rhoi ni allan o waith, fysa na neb yn mynd allan a cael gwrthdrawiadau, ‘sa neb yn mynd allan yn yfad ac yn gyrru, sa neb yn mynd allan dan ddylanwad cyffuriau a gyrru.
“Pawb mynd adra, mwynhau eu hunain – dyna di’n nymuniad i, i bawb mynd allan, mwynhau eu hunain, mynd adra’n saff a bod ‘na ddim ffraeo teuluol yn mynd ymlaen.
"Pan mae 'na ddigwyddiadau yn y gorffennol, be da ni’n alw’n domestic disputes – ma rheini’n cynyddu dros Dolig hefyd.
“Yn anffodus, mae un neu ddau yn mynd i fynd dros y marc a gwneud rhywbeth na ddylia nhw ddim. Ac yn anffodus, dyna pa bryd da ni’n gorfod sefyll i mewn.”
Ar ôl gweithio gyda’r llu am 48 mlynedd, eleni fe gafodd gwasanaeth Mr Saynor ei gydnabod wrth iddo ennill Gwobr am Gyflawniad Oes yng ngwobrau blynyddol Heddlu’r Gogledd.
Mae’n dweud mai technoleg a chymdeithas sydd wedi newid fwyaf yn ystod y cyfnod hwnnw.
“Mae 'na nifer o bethau di newid a dwi di bod yn ddigon ffodus i weld y trawsnewid a symud ymlaen efo fo.
“Mae pobol yr un peth heddiw a buon nhw 10, 15, 20 mlynedd yn ôl. Ond mae cymdeithas heddiw wedi newid mewn ffordd.
“Yfad a gyrru oedd hi ran amla’ pan o’n i ar y ceir. Heddiw, mae cyffuriau hefo ni hefyd, mae’n frith yn y gymdeithas a da ni’n weld o hefyd yn dod drwadd mewn gwrthdrawiadau.”
'Cyfraniad'
Roedd camerâu S4C yn dilyn Mr Saynor wrth ei waith yn archwilio gwrthdrawiadau fel rhan o’r gyfres S4C, Y Llinell Las.
Ac wrth edrych yn ôl ar dri degawd cyfan yn archwilio gwrthdrawiadau, pa elfen o’i swydd sydd wedi rhoi’r mwyaf o foddhad iddo?
“Dwi di gael mwynhad mawr o roi atebion i deuluoedd – be sy’ di digwydd, sut mae o di digwydd. Ond fedrwn ni ddim deud yn aml iawn pam mae’r pethau ma wedi digwydd.
“Does 'na’m byd yn fwy pleserus na ddod allan o gwest neu o lys, a pobol yn dod draw a deud ‘diolch yn fawr, da ni’n gwerthfawrogi’r gwaith da chi’n rhoi i mewn. Da ni ddim yn sylweddoli faint o waith da chi’n roid i mewn i’r pethau ma’.
“Mewn ffor', da ni yna i sefyll a siarad dros y bobl sydd ddim yma dim mwy, a’r diniwed - i neud yn saff bo’ nhw’n cael eu clywed hefyd. Dyna di’n cyfraniad ni.”
Prif lun: Gordon Saynor yn Y Llinell Las (S4C/Slam Media)