Newyddion S4C

Gwacáu Twr Eiffel wedi tân mewn lifft

Twr Eiffel

Cafodd Twr Eiffel ym Mharis, Ffrainc ei wacáu bore dydd Mawrth oherwydd fod tân yno.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r adeilad enwog yn dilyn adroddiadau bod un o'r lifftiau rhwng y llawr cyntaf a'r ail lawr ar dân.

Y gred yw bod 1,200 o bobl wedi gorfod gadael yr adeilad wrth i ddiffoddwyr ymateb i'r digwyddiad.

Mae'n debyg i'r tân gynnau wedi i gebl orboethi yn y llift. 

Mae bellach wedi'i ddiffodd, yn ôl gwasanaeth newyddion Euronews.

Fe gynheuodd y tân oriau’n unig wedi tân arall mewn adeilad ger gorsaf drenau St Lazare, tua dwy filltir i’r gogledd-ddwyrain o'r Twr Eiffel.

Mae lluniau fideo ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos fflamau'n ymledu ar seithfed llawr yr adeilad.

Dywedodd y gwasanaeth tân yn Ffrainc mai damwain ar safle adeiladu achosodd y tân hwnnw.

Llun: Anna Kurth / AFP

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.