Newyddion S4C

Pryder yn Llydaw am dro-pedol dros ddeddf iaith

06/05/2021

Pryder yn Llydaw am dro-pedol dros ddeddf iaith

Mae Gweinidog Addysg Ffrainc wedi apelio i ddisodli deddf newydd sydd yn ceisio diogelu ac amddiffyn ieithoedd lleiafrifol y wlad, gan gynnwys y Llydaweg.

Cafodd Deddf Molac ei phasio o 247 pleidlais i 76 yng Nghynulliad Cenedlaethol Ffrainc ar 8 Ebrill.

Ond mae Jean-Michel Blanquer wedi gweithredu yn erbyn y ddeddf drwy apelio i’r Uchel Lys Cyfansoddiadol ynghyd â 60 o ddirprwyon eraill.

O ganlyniad, mae rhai gwleidyddion yn bygwth gadael plaid La République en Marche sydd yn cael ei harwain gan yr Arlywydd Emmanuel Macron.

Yn ôl y Prifardd Aneirin Karadog, sydd â chyswllt cryf â Llydaw ac yn rhugl yn y Llydaweg, mae rhai yn teimlo eu bod wedi “cael cyllell yn y cefn” o ganlyniad i’r penderfyniad.

“Maen nhw’n gofyn, wel shwt esiampl yw hon i’r bobol gitre sydd ‘da ni sydd yn cefnogi be ni newydd bleidleisio drosto fe?” dywedodd.

“Felly’r peryg yw galle Macron golli llawer o bleidleisiau, mae ‘ne etholiadau ar y gweill hefyd cyn bo hir. Felly ma o i gyd yn bryderus.”

Mae ymgyrchwyr o blaid y ddedf yn Llydaw yn parhau i fod yn obeithiol caiff ei throi'n ddeddf gwlad.

Dywedodd Mr Karadog: “Mae ymateb graddol wedi bod, mae’r Llydäwyr sydd yn malio am y pethe ‘ma wedi bod yn cadw llygad ar y peth.

“Mae Molac wrth gwrs yn arwain y gad, ac mae hwythau yn dymuno a gweld y ddeddf yn troi’n gyfraith gwlad.

“Mae o fel rhyw ddrama wleidyddol ond mae’n hawdd ymgolli’n hyn, yn hynny, y dichellgarwch falle.

“Y peth i ni’n gobeithio dangos i bobol Llydaw a holl wledydd cenhedloedd hynafol Ffrainc bo’ ni yna i gefnogi nhw bob cam ac yn dymuno'r holl hawliau i ni’n cael i’r Gymraeg – chi’n gobeithio mwy o hawliau i’r Gymraeg i’w diogelu hi hefyd a’i chynnal hi’n iaith fyw yn y dyfodol."

Lluniau: Ecole polytechnique Université Paris-Saclay/Aneirin Karadog

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.