Newyddion S4C

Darllediad newyddion yn Iran 'wedi ei hacio' mewn protest

CNN 09/10/2022
hacio Iran

Fe gafodd darllediad o newyddion dyddiol ar deledu Iran ei hacio nos Sadwrn gan unigolion sydd yn gwrthwynebu'r gyfundrefn yno.

Am ychydig eilidau fe welwyd lun o fwgwd di-wyneb ar y sgrin tra roedd y darllediad i fod i ddangos ymweliad arweinydd y wlad, Ayatollah Ali Khamenei gyda dinas yn ne Iran.

Mae protestiadau wedi eu cynnal ar draws y wlad yn dilyn marwolaeth Mahsa Amnini, dynes 22 oed, aeth mewn i goma oriau ar ôl cael ei chadw gan heddlu moesoldeb ar 13 Medi yn Tehran, Iran.

Roedd honiadau ei bod wedi torri'r gyfraith sy'n ei gwneud yn ofynnol i fenywod orchuddio eu gwallt â hijab, neu sgarff pen. 

Bu farw yn yr ysbyty dridiau yn ddiweddarach. Mae ei theulu yn honni bod swyddogion wedi curo ei phen gyda baton ac wedi curo ei phen yn erbyn un o’u cerbydau hefyd. 

Darllenwch ragor yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.