Newyddion S4C

Canslo sioe Tylwyth yn Llanelli a Brycheiniog oherwydd salwch

07/10/2022
S4C

Mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi cadarnhau na fydd perfformiad o’r ddrama Tylwyth yn mynd yn ei flaen yn Ffwrnes, Llanelli a Theatr Brycheiniog oherwydd salwch.

Mewn neges ar wefannau cymdeithasol Theatr Genedlaethol Cymru mae’n nodi: “Mae’n ddrwg gennym gyhoeddi bod y perfformiadau o Tylwyth yn Ffwrnes Theatrau Sir Gar heno (7 Hydref) a Theatr Brycheiniog wythnos nesaf (11 Hydref) wedi’u canslo, oherwydd salwch.

“Bydd y ddwy ganolfan – Ffwrnes a Theatr Brycheiniog – yn cysylltu â deiliaid tocynnau i drefnu ad-daliadau.”

Hyd yn hyn mae’r ddrama wedi cael ei pherfformio yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd a dau berfformiad yn y Ffwrnes, Llanelli.

Wrth ymateb i’r newyddion ar Facebook dywedodd y cyfarwyddwr, Arwel Gruffydd fod y sefyllfa yn “dorcalonnus.

Yn arbennig i’r cynulleidfaoedd yn ardaloedd Llanelli ac Aberhonddu, a rheini oedd eisoes wedi prynu tocynnau (pawb yn cael eu harian yn ôl, wrth gwrs).

“A hefyd i’r corau, Cor Seingar ac Alive and Kicking, oedd yn mynd i fod yn cymryd rhan! Ond gobeithio y daw cyfle eto i gyd-weithio i’r dyfodol.

“Gyda lwc, bydd y perfformiadau eraill yn mynd yn eu blaen, ac felly digon o gyfleoedd o hyd i fwynhau’r ddrama arbennig hon hwnt ac yma.

Yn wreiddiol roedd y ddrama i fod i gael ei pherfformio ar draws Cymru yn 2020, ond tarfodd Covid-19 ar y daith a  bu'n rhaid ei gohirio tan eleni.

“Mi oedda’n ni ar fîn mynd ar daith, oedda’n ni wedi cael pedwar perfformiad yn y Sherman ac mi oedd y set yn y lori yn barod. Felly dwy flynedd a hanner yn ddiweddarach, dyma ni,” meddai Arwel Gruffydd wrth raglen Heno ar S4C fis Medi.

Mae Tylwyth yn ddilyniant i’r ddrama Llwyth ac mae wedi bod yn llwyddiant mawr hyd yn hyn.

Ychwanegodd Theatr Genedlaethol Cymru: “Byddwn ni’n parhau i adolygu’r sefyllfa dros y dyddiau nesaf ac yn rhannu unrhyw ddiweddariad cyn gynted ag sy’n bosib.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.