Newyddion S4C

Jess Fishlock yn sbarduno menywod Cymru gam yn nes at Gwpan y Byd

06/10/2022
Jess Fishlock

Mae menywod Cymru gam y nes at Gwpan y Byd ar ôl i Jess Fishlock sgorio gôl anhygoel mewn amser ychwanegol i sicrhau buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Bosnia Herzegovina yn y gemau ail-gyfle nos Iau. 

Roedd hi'n noson rwystredig i Gymru ar y cyfan, wedi i bedair gôl gael eu gwrthod yn ystod y 90 munud am gamsefyll. 

Ond gyda chiciau o'r smotyn ar y gorwel, daeth ergyd o'r safon uchaf gan Fishlock ychydig cyn diwedd hanner cyntaf y cyfnod ychwanegol. 

Gêm enfawr. Torf enfawr.

Fe wnaeth mwy na 15,000 o bobl lenwi Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer y gêm dyngedfennol, sef y dorf fwyaf yn hanes pêl-droed menywod Cymru. 

Aeth Cymru i mewn i'r gêm fel y ffefrynnau, ac fe dreuliodd menywod Gemma Grainger ran helaeth o'r hanner cyntaf yn dangos pam mai nhw oedd y ceffylau blaen. 

O fewn chwarter awr roedd y bêl yn rhwyd Bosnia diolch i Kayleigh Greene, ond ni wnaeth y gôl gyfrif oherwydd camsefyll. 

Ddau funud yn ddiweddarach, fe wnaeth Ceri Holland daro'r postyn, wrth i ymosodwyr Cymru gynyddu'r pwysau ar amddiffyn Bosnia. 

Ond er gwaethaf ymdrechion Cymru, ni ddaeth y gôl gyntaf cyn yr egwyl. 

Stori o gamsefyll oedd yr ail hanner. 

Llwydodd Green i rwydo unwaith eto ychydig ar ôl awr, ond unwaith eto fe gafodd y gôl ei gwrthod oherwydd camsefyll. 

Daeth penderfyniad dadleuol gydag wyth munud i fynd, ar ôl i'r dyfarnwr benderfynu fod Ffion Morgan yn camsefyll cyn sgorio gôl gampus, er i'r bêl gyffwrdd pen chwaraewr Bosnia cyn cwympo i draed yr eilydd. 

Lai na dau funud yn ddiweddarach, fe sgoriodd Cymru am y pedwerydd tro, ond arhosodd y gêm yn gyfartal - Jess Fishlock yn camsefyll y tro yma. 

Ni ddaeth unrhyw fantais o ran goliau yn eiliadau dramatig y munudau olaf chwaith, ac roedd yn rhaid i goesau blinedig y ddau dîm wynebu amser ychwanegol.

Ond hir yw pob ymaros, ac eiliadau cyn egwyl yr amser ychwanegol fe ddaeth y foment i blesio'r miloedd oedd yn aros yn obeithiol - gôl gampus gan Jess Fishlock, wedi iddi ergydio'r bêl i'r gornel uchaf.

Fe fydd Cymru nawr yn teithio i Zurich i wynebu'r Swistir wythnos nesaf yn y rownd nesaf. Fe fydd yr her honno'n dipyn anoddach, ond fe fydd y garfan yn teithio yno'n llawn gobaith wedi'r fuddugoliaeth yng Nghaerdydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.