Newyddion S4C

20 wedi marw yn dilyn ail don o ffrwydradau i declynnau cysylltu Hezbollah

Beirut, ymosodiad ar Hezbollah

Mae o leiaf 20 person wedi marw a dros 450 wedi eu hanafu yn dilyn ail don o ffrwydradau i declynnau cysylltu aelodau Hezbollah.

Cafodd rhai o declynnau radio walkie talkie eu ffrwydro yn ystod angladdau rhai o'r 12 a fu farw o ganlyniad i'r ymosodiad cyntaf ddydd Mawrth, ym mhrifddinas Libanus, Beirut.

Dywedodd Hezbollah bod Israel yn gyfrifol am yr ymosodiad. Dyw Israel heb wneud sylw.

Mae Hezbollah yn ddibynnol ar y teclynnau i gyfathrebu gyda'i gilydd am eu bod yn credu bod yna beryg y gallai eu ffonau symudol gael eu hacio.

Rhybuddiodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, António Guterres, am “risg difrifol" o waethygu'r rhyfel yn Israel o ganlyniad i'r ffrwydradau.

Ers dechrau'r rhyfel rhwng Hamas ac Israel mae rocedi wedi bod yn cael eu tanio yn ddyddiol ar draws ffin Israel a Libanus.

Mae Hezbollah yn dweud eu bod yn dangos eu cefnogaeth i Hamas.

O ganlyniad i'r ymosodiadau, mae tua 60,000 o bobl yng ngogledd Israel wedi gorfod gadael eu tai.

Ddydd Mercher, dywedodd Gweinidog Diogelwch y wlad, Yoav Gallant, bod y 'rhyfel wedi cyrraedd cymal newydd', wrth i filwyr cael eu symud i ogledd y wlad.

Mae Israel hefyd wedi datgan eu bod yn bwriadu sicrhau bod trigolion yng ngogledd y wlad yn gallu dychwelyd i'w tai "yn ddiogel".

Mudiadau terfysgol yw Hezbollah ac Hamas yn ôl Israel, Prydain a rhai gwledydd eraill.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.