Carcharu dyn am ymosod ar ddau heddwas yng Nghaernarfon
Mae dyn wedi cael ei garcharu am ymosod ar ddau heddwas yng Nghaernarfon ddydd Llun.
Ymddangosodd Dewi Glyn Parry, 45, o flaen Llys Ynadon Caernarfon ddydd Mawrth ar ôl cyfaddef i ymosod ar y swyddogion heddlu.
Am tua 21:00 nos Lun, roedd swyddogion heddlu yn bresennol yn ardal Lon y Bryn yn y dref ar ôl derbyn adroddiadau o anhrefn.
Ar ôl iddynt gyrraedd, dechreuodd Parry ymddwyn yn dreisgar tuag at y swyddogion, gan wthio un heddwas i'r llawr a gafael a rhoi pwysau ar arddwrn yr un arall.
Cyrhaeddodd rhagor o swyddogion i gynnig cymorth, ac fe gafodd Parry ei arestio a'i gludo i'r ddalfa.
Cafodd y dyn o Ffordd Llandygai, Llandygai ei garcharu am 12 wythnos.
Dywedodd arolygydd ardal gogledd Gwynedd, Ian Roberts: "Roedd gweithredoedd Parry yn erbyn y swyddogion heddlu a oedd yn gwneud eu dyletswyddau yn annerbyniol.
"Ni fyddwn yn derbyn ymosodiadau yn erbyn gweithwyr brys ac fe fyddwn yn delio â nhw ar unwaith."