RuPaul yn dysgu Cymraeg gyda help Carys Eleri

02/10/2022
Ru Paul

Mae'r frenhines drag a chyflwynydd enwog Ru Paul wedi bod yn dysgu ychydig o Gymraeg fel rhan o'i raglen newydd.

Mae Ru Paul wedi croesawu Carys Eleri a Charlotte Church i gystadlu ar y bennod ddiweddaraf o Celebrity Lingo ar ITV. 

Fel rhan o'r rhaglen, mae RuPaul yn gofyn i Carys Eleri am help gyda'i Gymraeg. 

Yn frwdfrydig, mae Carys yn cyfieithu dywediadau eiconig y cyflwynydd i iaith y nefoedd. 

"Dwi'n caru hwnna," meddai Ru Paul, ar ôl ceisio siarad Cymraeg ei hun. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.