Cerfluniau o hetiau bwced i gael eu harddangos mewn trefi ar gyfer Cwpan y Byd

Fe fydd cerfluniau mawr o hetiau bwced cefnogwyr pêl-droed Cymru yn cael eu codi ar draws y wlad fel rhan o'r dathliadau ar gyfer Cwpan y Byd.
Yn ôl WalesOnline, cafodd y cynllun ei gadarnhau gan bennaeth Cymdeithas Pêl-droed Cymru, Noel Mooney, ddydd Mercher.
Bydd yr hetiau mawr yn ymddangos yng Nghaerdydd, Abertawe, Bangor, Wrecsam ac Aberystwyth yn ystod y bencampwriaeth yn Qatar.
Bydd y cerfluniau hefyd yn cael eu goleuo'n goch, melyn a gwyrdd yn ystod y nos.
Darllenwch fwy yma.