Gavin Chesterfield yn hyfforddwr newydd academi CPD Caerdydd
Mae clwb pêl-droed Caerdydd wedi penodi Gavin Chesterfield fel hyfforddwr newydd ar yr academi.
Mae Chesterfield yn ymuno â'r Adar Gleision wedi 15 mlynedd wrth y llyw gyda'r Barri yng nghynghreiriau Cymru.
Yn ystod ei amser gyda'r Barri, llwyddodd Chesterfield i arwain y tîm yn ôl i'r JD Cymru Premier yn dilyn nifer o flynyddoedd cythryblus o fewn y clwb.
Yn ogystal â'i waith gyda'r Barri, bu Chestefield hefyd yn gweithio ochr yn ochr gydag Osian Roberts yn adran Datblygu Chwaraewyr Cymdeithas Pêl-droed Cymru.
Yn ôl Chesterfield, mae nawr yn barod am "gyfle perffaith" gyda Chaerdydd wrth iddo gymryd lle David Hughes fel prif hyfforddwr yr academi.
"Dwi'n gyffrous i fod yma. Mae'n glwb anhygoel gyda hanes enfawr a chefnogwyr angerddol," meddai.
"Does dim byd gwell na gweld chwaraewr yn dod trwy'r academi a chwarae ei gêm gyntaf."
"Mae'n deimlad anodd i'w ail-greu a dwi methu aros i ddechrau ac i helpu siapio'r genhedlaeth newydd o chwaraewyr yng Nghaerdydd."
Fe fydd Chesterfield yn dechrau'n swyddogol yn ei rôl newydd ar 14 Tachwedd.