Y Fonesig Hilary Mantel wedi marw'n 70 oed
23/09/2022
Mae'r Fonesig Hilary Mantel, oedd yn gyfrifol am ysgrifennu nifer o gyfriolau cofiadwy a phoblogaidd, wedi marw yn 70 oed.
Mewn datganiad ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd ei chyhoeddwr, 4th Estate Books, eu bod yn "dorcalonnus" o fod wedi colli un o fawrion y byd llenyddiaeth.
"Mae hyn yn golled enfawr ac rydym ond yn medru gwerthfawrogi'r casgliad o waith anhygoel mae wedi gadael ar ei hôl."
Fe wnaeth y Fonesig Hilary ennill y wobr Brooker ddwywaith yn ystod ei gyrfa, a hynny gyda'i nofelau hanesyddol yn dilyn hanes y Tuduriaid, Wolf Hall a Bring Up the Bodies.
Cafodd Wolf Hall ei droi yn ddrama teledu lwyddiannus, gan ennill dwy wobr BAFTA.