Galwadau am bleidlais ar uno Iwerddon wedi canlyniad cyfrifiad

Mae plaid Sinn Féin yng Ngogledd Iwerddon wedi galw am gynnal refferendwm ar ddyfodol y rhanbarth yn dilyn cyhoeddi canlyniadau'r cyfrifiad diweddaraf yno.
Dangosodd y canlyniadau gafodd eu cyhoeddi ddydd Iau bod mwy o Gatholigion na Phrotestaniaid bellach yn byw yng Ngogledd Iwerddon - a hynny am y tro cyntaf ers i'r rhanbarth gael ei sefydlu yn 1921.
Mae canlyniadau Cyfrifiad 2021 yn dangos fod 46% o'r boblogaeth bellach yn Gatholigion, tra bo 43% yn Brotestaniaid neu fath arall o Gristnogaeth.
Yng Nghyfrifiad 2011, cafodd 48% o'r boblogaeth ei gofnodi fel Protestaniaid tra bo 45% yn Gatholigion.
Mae gwleidyddion unoliaethol wedi dweud na ddylid cyfatebu'r canlyniad gyda'r farn wleidyddol ymysg pobl Gogledd Iwerddon am ddyfodol y rhanbarth.
Darllenwch ragor yma.