40,000 o weithwyr rheilffyrdd i fynd ar streic ar 8 Hydref
Mae undeb yr RMT wedi cyhoeddi y bydd gweithwyr rheilffyrdd yn cymryd rhan mewn streic ar 8 Hydref.
Bydd dros 40,000 o aelodau RMT o Network Rail a 15 o gwmnïau trenau yn cymryd rhan yn y gweithredu diwydiannol.
Mae undeb ASLEF wedi cyhoeddi'n barod y bydd gyrwyr trenau yn cynnal streiciau ar ddydd Sadwrn 1 Hydref a dydd Mercher 5 Hydref.
Mae’r gyrwyr yn streicio oherwydd anghydfod dros gyflogau.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr RMT, Mick Lynch, fod yr undeb wedi cyfarfod gyda'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth newydd, Anne-Marie Trevelyan, yn barod.
“Rydym yn croesawu’r agwedd fwy cadarnhaol gan y llywodraeth fel cam cyntaf i ddod o hyd i setliad addas.
“Fodd bynnag, gan nad oes cynnig newydd wedi’i gyflwyno, does gan ein haelodau ddim dewis ond parhau â’r streic hon.
“Byddwn yn parhau i drafod, ond mae angen i’r cyflogwyr a’r llywodraeth ddeall y bydd ein hymgyrch ddiwydiannol yn parhau cyhyd ag y bydd yn ei gymryd,” meddai.