Newyddion S4C

Protestiadau pellach yn Tehran yn dilyn marwolaeth menyw 22 oed

22/09/2022
Tehran

Mae gwrthdystio pellach wedi digwydd yn Tehran ddydd Iau, yn dilyn saith diwrnod o anhrefn ar strydoedd y brifddinas.

Mae'r awdurdodau yn Iran wedi cyfyngu ar allu pobl i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a'r we yn dilyn y protestiadau sydd wedi digwydd dilyn marwolaeth menyw mewn ysbyty yn y brifddinas.

Roedd Mahsa Amini yn 22 oed ac wedi teithio i Tehran o ddinas Saques gyda'i theulu.

Cafodd ei harestio ar 16 Medi gan heddlu moeseg y wlad oedd yn honni ei bod wedi torri cyfraith oedd yn datgan y dylai menywod orchuddio eu gwallt gyda hijab a gorchuddio eu breichiau gyda dillad.

Yn ôl adroddiadau roedd wedi ei churo gan yr heddlu cyn ei marwolaeth, ond mae awdurdodau'r wlad yn gwadu hyn.

Aeth Mahsa Amini i mewn i goma cyn marw mewn ysbyty dridiau'n ddiweddarach.

Mae ei marwolaeth wedi arwain at brotestiadau treisgar yn Tehran, sydd wedi ymledu i ddinasoedd eraill ar draws y wlad.

Mae protestwyr wedi ymosod ar orsafoedd yr heddlu a'r gwasanaethau diogelwch, ac mae mudiad Amnest Rhyngwladol yn dweud fod wyth o wrthdystwyr wedi marw ers dechrau'r protestio.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.