Elusen yn galw am warchod tenantiaid rhag cael eu 'troi allan' dros y gaeaf
Mae elusen wedi galw ar Lywodraeth Cymru i atal landlordiaid rhag 'troi allan' tenantiaid o'u cartrefi yn ystod misoedd y gaeaf.
Dywed Shelter Cymru fod angen cyflwyno'r mesur brys er mwyn rhoi sicrwydd i bobl sy'n ei chael hi'n anodd yn sgil yr argyfwng costau byw.
Roedd hwn yn fesur a gafodd ei gyflwyno dros-dro yn ystod misoedd y pandemig pan oedd yn rhaid i bobl aros adref.
Dywedodd Shelter Cymru fod angen pecyn o fesurau tebyg i gael ei gyflwyno er mwyn mynd i'r afael â'r "argyfwng" sydd yn wynebu nifer o denantiaid.
Mae rhai gwledydd, gan gynnwys Ffrainc, yn cyflwyno mesur tebyg bob gaeaf er mwyn rhwystro pobl rhag dod yn ddigartref yn ystod misoedd oeraf y flwyddyn.
Yn ôl Shelter Cymru, mae eisoes lefelau "digynsail" o ddigartrefedd a "phwysau aruthrol" ar eu llety dros-dro.
Maen nhw hefyd yn dweud y byddai rhewi rhent yn cael "effaith cadarnhaol tymor byr" ar gostau tenantiaid ond bod angen meddwl yn yr hirdymor.
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Lywodraeth Cymru: “Bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn dod â llawer mwy o dryloywder a chysondeb i rentu cartrefi, gan ddiogelu buddiannau landlordiaid a deiliaid contract.
“Pan gaiff ei gyflwyno ym mis Rhagfyr, bydd yn sicrhau bod pob tenant newydd yn cael o leiaf chwe mis o rybudd pan nad ydynt ar fai.
“Rydym hefyd yn ymgynghori ar hyn o bryd ar gynigion a fyddai’n gweld tenantiaid presennol hefyd yn elwa o gyfnodau rhybudd o chwe mis yn hytrach na’r ddau fis presennol."
Ychwanegodd y llefarydd fod y llywodraeth wedi ymrwymo i'w nod hirdymor o roi diwedd ar ddigartrefedd ac yn buddsoddi mwy na £197m mewn gwasanaethau Cymorth Tai ac Atal Digartrefedd eleni.