Newyddion S4C

Y gwaharddiad ar ffracio i barhau yng Nghymru wedi tro pedol yn Lloegr

ffracio

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na fydd yn newid y gwaharddiad ar ffracio am nwy siâl, yn dilyn tro pedol gan Lywodraeth San Steffan.

Dywedodd y Prif Weinidog Liz Truss ar ddechrau mis Medi y byddai ffracio nwy siâl yn ail-ddechrau yn Lloegr, ac fe gafodd y gwaharddiad yno ei godi ddydd Iau. 

Roedd ffracio wedi ei wahardd yn Lloegr ers 2019 wedi i reoleiddiwr y diwydiant ddweud nad oedd yn bosib rhagweld maint y daeargrynfeydd y gallai ffracio ei achosi.

Dros y blynyddoedd mae grwpiau amgylcheddol a chymunedau lleol wedi gwrthwynebu ffracio, ond dywedodd Ysgrifennydd Busnes ac Ynni Llywodraeth y DU, Jacob Rees-Mogg, bod angen archwilio pob ffynhonnell ynni er mwyn cynnyddu cynhyrchiad.

Daw'r penderfyniad yn dilyn cyhoeddiad arolwg gwyddonol i ffracio gan y British Geological Survey, yn ogystal â newid polisi o achos yr argyfwng costau ynni byd eang.

Mewn ymateb i'r datblygiadau yn Lloegr, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dydyn ni ddim yn cefnogi safbwynt Llywodraeth y DU ar ehangu archwilio am nwy ac olew.

"Mae'r cyfrifoldeb i drwyddedu'r archwiliad a datblygiad o ffynhonellau ynni yn gorwedd gyda Gweinidogion Cymru. Rydym yn ymrwymo'n llawn i gefnogi ein ymrwymiadau sero net a ni fyddwn yn cefnogi ceisiadau i ffracio yng Nghymru."

Llun: Daniel Foster/Flickr

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.