Newyddion S4C

Mwy o Gatholigion na Phrotestaniaid yng Ngogledd Iwerddon am y tro cyntaf

Belfast Telegraph 22/09/2022
Stormont

Mae mwy o Gatholigion na Phrotestaniaid yn byw yng Ngogledd Iwerddon am y tro cyntaf ers i'r rhanbarth gael ei sefydlu, yn ôl ffigyrau diweddaraf y cyfrifiad.

Mae canlyniadau Cyfrifiad 2021 yn dangos fod 46% o'r boblogaeth bellach yn Gatholigion, tra bo 43% yn Brotestaniaid neu fath arall o Gristnogaeth.

Yng Nghyfrifiad 2011, cafodd 48% o'r boblogaeth ei gofnodi fel Protestaniaid tra bo 45% yn Gatholigion.

Mae rhai yn beirniadu defnyddio cefndir crefyddol fel ffordd o fesur cefnogaeth bosibl ar gyfer Iwerddon unedig, ond mae eraill yn dadlau bod perthynas rhwng y ddau beth.

Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.