'Pryderon difrifol' am les cyflwynwyr yn sgil cyhuddiadau o 'neidio'r ciw'

Mae "pryderon difrifol" am les y cyflwynwyr Holly Willoughby a Phillip Schofield yn sgil cyhuddiadau o "neidio'r ciw".
Cafodd cyflwynwyr y rhaglen This Morning ar ITV eu cyhuddo o neidio'r ciw i weld y Frenhines yn gorffwys yn gyhoeddus cyn ei hangladd ac maen nhw wedi derbyn negeseuon "diddiwedd" ar-lein ers hynny.
Cafodd datganiad ei recordio gan y cyflwynwyr ar gyfer rhaglen dydd Mawrth, pan wnaethant esbonio fod ganddyn nhw achrediad fel aelodau o'r cyfryngau.
Mae deiseb yn galw am gael gwared ar y ddau o gyflwyno'r rhaglen foreol bellach wedi cyrraedd 50,000 o lofnodion.
Darllenwch ragor yma.