Newyddion S4C

Costau Byw: Ceiswyr lloches ‘eisiau gweithio ond heb yr hawl i wneud’

Costau Byw: Ceiswyr lloches ‘eisiau gweithio ond heb yr hawl i wneud’

ITV Cymru 22/09/2022

Mae rhai ceiswyr lloches yn galw am gael yr hawl i weithio er mwyn cynorthwyo â'r cynnydd mewn costau byw.

Ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig, nid oes hawl gan geisiwyr lloches weithio wrth i'w ceisiadau gael eu prosesu. 

Mae’n rhaid i geiswyr lloches sydd â chynilion digonol eu defnyddio i fyw wrth iddyn nhw ddisgwyl cael eu ceisiadau wedi’u prosesu.

Mae’r rheiny sydd yn cael eu hystyried yn amddifad yn derbyn cefnogaeth ariannol o £40.85 yr wythnos.  

Mae Fredy Perez wedi bod yn ceisio am loches yn y Deyrnas Unedig am 11 mis.  Yn wreiddiol o El Salvador, daeth i Gymru gyda’i wraig a dau o blant i ffoi rhag peryglon ei wlad.

“A dweud y gwir, byddwn i’n dweud bod y gefnogaeth ariannol gan y llywodraeth yn ddigonol i brynu bwyd ar y dechrau ond ers hynny mae costau byw wedi codi llawer," meddai. 

“P’un ai ydych yn ei hoffi neu beidio, fel rhiant mi wyt ti yn edrych ar ôl dy blant ac eisiau’r gorau iddyn nhw, a ph’un ai ydych chi eisiau’r arian neu beidio maen nhw’n ei roi o i ni ond, dydy o ddim yn ddigon oherwydd mae’n rhaid i ni wario’r arian ar bethau hanfodol fel dillad ac esgidiau.

“Ond yn y pendraw mae’r arian yn rhedeg allan, felly o bryd i’w gilydd rydyn ni’n stopio bwyta i allu prynu’r pethau hyn.

'Nhw moyn gweithio'

Mae Fredy wedi bod yn gwirfoddoli yng nghegin elusen Oasis wrth iddo aros am ei gais gael ei brosesu.

Mae Oasis yn elusen sydd yn cynnig prydau dyddiol am ddim i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. 

Dywedodd Kirran Lochhead Strang,  swyddog integreiddio yn Oasis: “Wrth gwrs mae cyfanswm yr arian, sef £40 yr wythnos, mae ceiswyr lloches yn ei dderbyn o’r Swyddfa Gartref dim ond yn dipyn bach ac mae’n anodd.

“Ond y peth pwysicaf yw’r ffaith bod ceiswyr lloches fel arfer ddim yn cael yr hawl i weithio. Pam mae pobl ddim yn cael yr hawl i weithio pan mae ganddyn nhw’r sgiliau?  Dydyn nhw ddim moyn cymryd arian am ddim.

“Maen nhw moyn gweithio, maen nhw moyn edrych ar ôl eu hunain a rhoi’n ôl i’r gymdeithas fel unrhyw un arall. Felly dyna yw’r peth byddai’n gwneud o’n llawer haws i bobl o ran costau byw.”

Image
Kirran Lochhead Strang
Mae Kirran Lochhead Strang yn teimlo y dylai ceiswyr lloches gael yr hawl i weithio.

Mae Mr Strang yn teimlo bod angen mwy o weithredu er mwyn rhoi’r cyfleoedd gorau posib i geiswyr lloches.

“Fe allwn ni gyd anfon ebost i’n ASau, fe allwn ni gyd wthio ein llywodraethau lleol i drio rhoi’r hawl i geiswyr lloches weithio," meddai.

“Mae’n cymryd mwy o amser nag oedd o i fynd trwy’r broses o geisio am loches.  Mae’n anodd i’r bobl sydd yn mynd trwy’r broses ond hefyd mae’n costio llywodraethau a threthdalwyr mwy nag y dylai.”

Mewn ymateb i’r sylwadau, dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: “Mae ceiswyr lloches, a fyddai fel arall yn amddifad, yn derbyn cefnogaeth wrth inni ystyried eu ceisiadau am ddiogelwch rhyngwladol.

"Mae hyn yn cynnwys lloches â dodrefn yn ogystal â chefnogaeth ariannol wythnosol am fwyd, dillad, trafnidiaeth a nwyddau defnyddiol.

“Gall ceiswyr lloches weithio os nad yw eu ceisiadau wedi’u prosesu ar ôl 12 mis, cyn belled â bod yr oedi ddim yn fai arnyn nhw, ac os ydyn nhw yn gallu gweithio mewn rôl ar y Rhestr o Alwedigaethau lle ceir Prinder”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.