Newyddion S4C

Cymru’r genedl gyntaf yn y DU i gyflwyno cwricwlwm Du Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

ITV Cymru 21/09/2022
Ysgol

Cymru yw’r genedl gyntaf yn y DU i gyflwyno cwricwlwm Du Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar draws ei holl ysgolion cynradd a rhai ysgolion uwchradd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r cwricwlwm Du Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig wedi cael ei gynllunio i helpu plant a phobl ifanc i ddeall a pharchu diwylliannau a thraddodiadau eu hun ac eraill. 

“Er mwyn gwella fel cymdeithas, mae’n rhaid i’n system addysg ehangu ein dealltwriaeth a gwybodaeth o’r sawl diwylliant sydd wedi llunio ein gorffennol a’n presennol," dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth. 

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymroi i greu Cymru Wrth-Hiliol, sy’n galw am ddim goddefgarwch o hiliaeth bob tro."

Bydd y cwricwlwm newydd yn gadael i hanes cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ddod i’r feu ymhob agwedd o ddysgu, yn hytrach na chanolbwyntio ar ddigwyddiadau neu bobl penodol.

'Platfform'

Fe wnaeth Angel Ezeadum, cyn-aelod Senedd Ieuenctid Cymru ac ymgyrchydd, sôn am y pwnc am y tro cyntaf yn Hydref 2019 yn y Senedd yn ystod Datganiad 90 Eiliad.

Ond dim ond ar ôl y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys wnaeth yr ymgyrch ennill momentwm. 

Dywedodd Angel wrth ITV Cymru Wales: “Roedd y siwrnai ymgyrchu yn hir ond yn werthfawr.

“Wrth astudio ar gyfer TGAU, fe ddewisais hanes, a’r unig sôn am hanes pobl dduon oedd ar y pwnc caethwasiaeth ym mlwyddyn naw.

"I feddwl mai dyma’r blas cyntaf mai nifer o feddyliau ifanc sy’n hawdd gwneud argraff arnyn nhw yn cael, mae’n siomedig ac yn arwain at broblemau’n datblygu yn y dyfodol.

“Roeddwn yn gwybod bod gen i blatfform fel Aelod Senedd Ieuenctid Cymru i bwysleisio’r problemau roeddwn i a’m cyfoedion yn poeni amdanyn nhw dros ein hunain, ond hefyd dros y gymdeithas yn ehangach.”

Dywedodd yr Athro Charlotte Williams, Cadeirydd Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Profiadau Du Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a’r Cwricwlwm Newydd y bydd ysgolion yn intagreiddio hanes lleiafrifoedd ethnig ar draws y cwricwlwm newydd. 

“Nid mater o ychwanegu elfen o hanes pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig fan hyn a fan draw yn y cwricwlwm ydy hyn," meddai. 

"Ond mater o ailstrwythuro dysgu ac addysgu ar draws holl elfennau’r cwricwlwm er mwyn adlewyrchu Cymru sydd, ac sydd wedi bod o hyd, yn amrywiol yn ethnig, yn rhyng-genedlaetholgar yn eu hagwedd ac yn flaenger yn eu dyheadau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.