Newyddion S4C

Lluoedd Rwsia i ryddhau pum carcharor rhyfel o Brydain yn Wcráin

21/09/2022
vladimir putin

Fe fydd pum carcharor rhyfel o Brydain yn cael eu rhyddhau'n ddiogel gan luoedd Rwsia yn nwyrain Wcráin.

Mae'r Prif Weinidog, Liz Truss, sydd ar ymweliad â chynhadledd y Cenhedloedd yn Unedig yn Efrog Newydd wythnos hon, wedi croesawu'r newyddion.

Dywedodd Ms Truss y byddai hyn yn "ddiwedd ar fisoedd o ansicrwydd a dioddefaint iddyn nhw a'u teuluoedd".

Fe ddiolchodd y Prif Weinidog i Arlywydd Wcráin, Volodomyr Zelensky, am ei gymorth wrth sicrhau rhyddhad y carcharorion, ac i Saudi Arabia am eu cymorth.

Ychwanegodd bod yn rhaid i Rwsia beidio â chymryd mantais o garcharorion rhyfel am resymau gwleidyddol.

Wrth groesawu'r newyddion, dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor, James Cleverly, fod ei feddyliau'n parhau i fod gyda theulu Paul Urey, carcharor fu farw yn ystod ei gyfnod yno.

Llun: Fforwm Economaidd y Byd

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.