Teyrnged i fam a nain 'rhagorol' fu farw mewn gwrthdrawiad ger Merthyr Tudful

21/09/2022
Catherin Bradford

Mae teulu menyw a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Nowlais wedi rhoi teyrnged i'w mam a nain "rhagorol." 

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng cerbyd MG ZS llwyd a cherddwr ar stryd fawr y pentref ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful am tua 17:50 ddydd Llun.

Bu farw Catherine Bradford, 52, yn y fan a'r lle. 

Wrth dalu teyrnged iddi, dywedodd ei theulu y bydd colled fawr ar ei hôl. 

"Roedd hi'n fenyw a oedd yn un mewn miliwn a wnaeth gyffwrdd â gymaint o bobl gyda'i chariad at fywyd," meddai'r teulu.

"Roedd hi'n enaid cariadus a phur." 

Cafodd dyn 29 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus yn dilyn y gwrthdrawiad.

Mae bellach wedi'i ryddhau dan ymchwiliad wrth i ymholiadau'r heddlu parhau. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.