Cymru i herio Gwlad Belg yn eu gêm olaf ond un cyn Cwpan y Byd
Cymru i herio Gwlad Belg yn eu gêm olaf ond un cyn Cwpan y Byd
Bydd Cymru yn herio Gwlad Belg ym Mrwsel yn eu gêm olaf ond un cyn Cwpan y Byd ym mis Tachwedd.
Bydd carfan Rob Page yn gobeithio gorffen yn gryf yn eu hymgyrch yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA, wedi iddynt sicrhau ond un pwynt o'r pedair gêm sydd wedi'u chwarae hyd yn hyn.
Enillodd Cymru y pwynt hynny yn erbyn Gwlad Belg yn Stadiwm Dinas Caerdydd ym mis Mehefin. Brennan Johnson sgoriodd ym munudau ola'r gêm, ei gôl gyntaf dros ei wlad.
Mae nifer o chwaraewyr Cymru wedi newid clybiau ers gemau mis Mehefin, a bydd disgwyl i chwaraewyr fel Dan James, Wayne Hennessey a Gareth Bale sydd yn rhai sydd wedi symud, chwarae yn erbyn Gwlad Belg ac yn erbyn Gwlad Pwyl nos Sul.
Ni fydd Ben Davies nag Aaron Ramsey ar gael ar gyfer y gemau yma, wedi iddynt gael eu hanafu yn chwarae i'w clybiau.
Ond mae 'na gyfle i wynebau newydd greu argraff ar Rob Page a chefnogwyr Cymru. Mae Luke Harris o Fulham a Jordan James o Bimingham wedi cael eu cynnwys am y tro cyntaf.
Os nad yw Cymru yn ennill eu dwy gêm olaf, mi fydd y wlad yn disgyn i Gynghrair B yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA, ond gall Gymru gadw eu lle os ydy canlyniadau eraill yn gweithio i'w mantais.
Gall bob dim ddod lawr i'r gêm yn erbyn Gwlad Pwyl. Mae Cymru ar un pwynt a Gwlad Pwyl ar bedwar.
Os ydy Cymru yn ennill yn erbyn Gwlad Belg a Gwlad Pwyl yn colli yn erbyn yr Iseldiroedd, bydd y gêm olaf yn penderfynu pwy sy'n disgyn i Gynghrair B.
Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans