Cyhoeddi carfan rygbi menywod Cymru ar gyfer Cwpan y Byd
Mae tîm rygbi merched Cymru wedi cyhoeddi eu carfan ar gyfer Cwpan y Byd sydd yn cychwyn ym mis Hydref.
Bydd y gystadleuaeth yn cychwyn ar 9 Hydref, blwyddyn yn ddiweddarach na'r disgwyl oherwydd pandemig Covid-19.
Bydd Cymru yn yr un grŵp â'r Alban, Seland Newydd ac Awstralia.
Mae hyfforddwr Cymru, Ioan Cunningham, wedi dewis ei garfan 0 32 chwaraewr bydd yn teithio i Seland Newydd.
Siwan Lilicrap fydd y capten, gyda Hannah Jones wedi ei henwi fel is-gapten.
Bydd Sioned Harries, Elinor Snowsill a Caryl Thomas yn chwarae yn eu pedwerydd Cwpan y Byd, tra bydd cyfle i 19 chwaraewr wneud eu hymddangosiad cyntaf i Gymru yn y gystadleuaeth.
Dywedodd Ioan Cunningham: "Rydym yn hapus iawn gyda'r garfan, ni wir yn edrych 'mlaen i weld beth allen ni neud yn Seland Newydd.
"Mi oedd 'na rai penderfyniadau anodd i'w gwneud, ac 'yn ni'n edrych ar y sefyllfaoedd gwahanol gallwn wynebu yn Seland Newydd ac yn bwysicach oll, ffyrdd rydym yn gallu gwneud yn siŵr bod y chwaraewyr yn chwarae eu gorau ar y cae."
Y garfan yn llawn:
Olwyr:
Keira Bevan, Lleucu George, Hannah Jones (is-gapten), Jasmine Joyce, Kerin Lake, Lisa Neumann, Ffion Lewi, Lowri Norket, Kayleigh Powell, Elinor Snowsill, Niamh Terry, Megan Webb, Robyn Wilkins, Carys Williams-Morris.
Blaenwyr:
Alisha Butchers, Alex Callender, Gwen Crabb, Georgia Evans, Kat Evans, Abbie Fleming, Cerys Hale, Sioned Harries, Cara Hope, Natalia John, Kelsey Jones, Bethan Lewis, Gwenllian Pyrs, Donna Rose, Siwan Lillicrap (capten), Carys Phillips, Caryl Thomas, Sisilia Tuipulotu
Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans