Emiliano Sala: Peliot wedi disgrifio awyren fel un 'amheus'

Fe wnaeth peilot yr awyren y gwnaeth y pêl-droediwr Emiliano Sala farw ynddi ei disgrifio fel un "amheus" cyn eu taith olaf ynddi.
Mewn deunydd sain sydd wedi ei ryddhau ar bodlediad y BBC, Transfer: The Emiliano Sala Story, fe wnaeth David Ibboston hefyd ddweud y byddai'n gwisgo siaced fywyd cyn yr hediad angheuol.
Daeth cwest i'r casgliad fod y chwaraewr o'r Ariannin wedi marw o ganlyniad i anafiadau i'w ben a'i frest ond ei fod yn anymwybodol ar ôl cael ei wenwyno gan fwg o system fwg yr awyren.
Roedd y pêl-droediwr 28 oed ar ei ffordd o Nantes yn Ffrainc i ymuno â Chlwb Dinas Caerdydd pan syrthiodd yr awyren i mewn i'r Môr Udd ger Guernsey, gan ladd Sala ac Ibboston.
Darllenwch fwy yma.
Llun: CPD Dinas Caerdydd