Daniel Evans yn gyd-gyfarwyddwr artistig newydd y Royal Shakespeare Company
Mae Daniel Evans a Tamara Harvey wedi cael eu penodi fel cyfarwyddwyr artistig y Royal Shakespeare Company.
Yn wreiddiol o'r Rhondda, astudiodd Daniel Evans yn Ysgol Gyfun Rhydfelen cyn symud i Ysgol Gerddoriaeth a Drama'r Guildhall.
Bu'n actio rhwng 1987 a 2011 gan berfformio mewn ffilmiau, ar y teledu ac mewn theatrau.
Mae Tamara Harvey yn gyfarwyddwr artistic Theatr Clwyd. Cafodd ei geni yn Botswana cyn symud i'r Unol Daleithiau ac yna Brighton yn Lloegr yn ddiweddarach.
Hi fydd y cyfarwyddwr artistig benywaidd cyntaf yn hanes yr RSC ers cael ei sefydlu 60 mlynedd yn ôl.
Mae Daniel Evans wedi bod yn gyfarwyddwr artistig ar Theatr Sheffield a Gŵyl Theatr Chichester cyn ei benodiad diweddaraf fel cyfarwyddwr artistig yr RSC, ac fe fydd y ddau yn dechrau'r gwaith ym Mehefin 2023.
Yn dilyn ei benodiad, dywedodd Daniel Evans: "Mae'n meddwl siwt gymaint i mi i ddychwelyd i'r RSC ar ôl bod yma yn fy arddegau.
"Ac i fod ma gyda Tamara, mae hynny'n fraint. Rydym yn rhannu gwerthoedd hollbwysig ac mae gennym weledigaeth uchelgeisiol i'r cwmni. Rydym yn edrych ymlaen i weithio gyda'r tîm yn y bennod newydd, gyffroes 'ma yn stori'r RSC."
Llun: Saemus Ryan/RSC