Cyhoeddi pecyn cymorth biliau ynni i fusnesau
Cyhoeddi pecyn cymorth biliau ynni i fusnesau
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi pecyn o gymorth er mwyn helpu busnesau gyda'u biliau ynni.
Fe fydd y cynllun yn darparu cymorth i fusnesau am gyfnod o chwe mis ac yn dechrau ar 1 Hydref.
Yn dilyn y cyfnod yma, fe fydd y Llywodraeth yn parhau i ddarparu cymorth i fusnesau mewn diwydiannau bregus.
Bydd pris cyfanwerth ynni yn cael ei osod ar £211 am bob MWh o drydan, a £75 am bob MWh o nwy - sydd yn llai na hanner y pris cyfanwerth ar gyfer ynni oedd wedi ei ddisgwyl y gaeaf hwn.
Mewn datganiad, dywedodd y llywodraeth y byddai'n "darparu gostyngiad ar brisiau cyfanwerthol nwy a thrydan i bob cwsmer annomestig (gan gynnwys holl fusnesau’r DU, y sector gwirfoddol fel elusennau a’r sector cyhoeddus fel ysgolion ac ysbytai) ar eu gwasanaeth presennol.
"Mae prisiau nwy a thrydan wedi chwyddo'n sylweddol yn wyneb prisiau ynni byd-eang. Bydd y cymorth hwn yn cyfateb i'r Gwarant Pris Ynni a roddwyd mewn lle ar gyfer aelwydydd."
Roedd y llywodraeth eisoes wedi capio biliau ynni ar gyfer cartrefi mewn ymdrech i leddfu'r argyfwng costau byw, gan olygu na fydd pobl yn talu mwy na £2,500 am y ddwy flynedd nesaf.
'Pwysau aruthrol'
Wrth gyhoeddi'r newyddion am y pecyn cymorth i fusnesau, dywedodd prifweinidog y DU Lis Truss: “Rwy’n deall y pwysau aruthrol y mae busnesau, elusennau a sefydliadau’r sector cyhoeddus yn eu hwynebu gyda’u biliau ynni, a dyna pam rydym yn cymryd camau ar unwaith i’w cefnogi dros y gaeaf ac amddiffyn swyddi a bywoliaeth.
“Fel yr ydym yn ei wneud i ddefnyddwyr, bydd ein cynllun newydd yn cadw eu biliau ynni i lawr o fis Hydref, gan gynnig sicrwydd a thawelwch meddwl.
“Ar yr un pryd, rydyn ni’n rhoi hwb i gyflenwad ynni cartrefi Prydain felly rydyn ni’n trwsio gwraidd y problemau rydyn ni’n eu hwynebu ac yn sicrhau mwy o sicrwydd ynni i ni i gyd.”
Dywedodd y Canghellor Kwasi Kwarteng: “Rydym wedi camu i’r adwy i atal busnesau rhag dymchwel, amddiffyn swyddi, a chyfyngu ar chwyddiant.
“A chyda’n cynlluniau i hybu cyflenwad ynni cartref, byddwn yn dod â sicrwydd i’r sector, twf i’r economi a sicrhau bargen well i ddefnyddwyr.”
'Gweithredu ar frys'
Wrth ymateb i gyhoeddiad ynni’r Llywodraeth, dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol UK Steel, Gareth Stace:
“Mae cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Busnes heddiw yn dangos bod y Llywodraeth newydd yn deall maint y broblem a’r angen i ddarparu ateb sylweddol yn gyflym. Mae gosod cap pris ar gyfer trydan o £211/MWh am chwe mis yn rhoi cyfle i sectorau sylfaen, fel dur, fynd drwy’r gaeaf drwy roi tirwedd fusnes gystadleuol i ni.
“Mae’n hanfodol bod y Llywodraeth yn gweithredu ar frys os yw’r sefyllfa’n datblygu ymhellach er mwyn sicrhau bod busnesau Prydeinig yn gystadleuol o fewn Ewrop a ledled y Byd.
“Rhaid i’r Llywodraeth nawr symud i ddiwygio’r farchnad ynni yn gyflym i sicrhau pris cystadleuol yn yr hir dymor y tu hwnt i’r cap prisiau presennol. Mae’r diwydiant dur yn barod i weithio gyda’r Llywodraeth i ddangos y budd y bydd y cyhoeddiad heddiw yn ei gael ar ein sector ac i ddiwygio’r farchnad ynni fel nad ydym yn yr un sefyllfa yr adeg hon y flwyddyn nesaf.”
Cafodd y cyhoeddiad am y pecyn cymorth i fusnesau ei ohirio yn sgil marwolaeth y Frenhines.