'Nid bygythiad gwag yw hwn': Vladimir Putin yn paratoi pobl ei wlad at ryfel
Mae Vladimir Putin wedi cyhoeddi ei gamau nesaf yn y rhyfel yn Wcráin, mewn anerchiad i'w wlad fore dydd Mercher.
Yn yr anerchiad oedd wedi ei recordio o flaen llaw, dywedodd yr Arlywydd Putin y byddai'r awdurdodau yn Rwsia yn paratoi pobl a lluoedd ei wlad ar gyfer rhyfel, ond y bydd yn defnyddio milwyr wrth gefn yn unig yn Wcráin am y tro.
Dywedodd hefyd fod gan Rwsia daflegrau dinistriol fyddai'n cael eu defnyddio i amddiffyn y wlad, ac mai nad "bygythiad gwag" oedd ei neges.
Pwysleisiodd mai dim ond milwyr wrth gefn fyddai'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd yn yr ymladd, ac y byddai milwyr yn dechrau cael eu hanfon i Wcráin ddydd Mercher.
Dywedodd hefyd ei fod yn cefnogi'r rhai hynny sydd yn ceisio cynnal refferenda yn yr ardaloedd hynny o Wcráin sydd wedi eu meddiannu gan luoedd Rwsia, sef Donetsk, Luhansk, Kherson a Zaporizhzhia.
Ychwanegodd ei fod yn cymryd pob cam posib er mwyn sicrhau y gallai hyn ddigwydd.
Fe wnaeth hefyd fachu ar y cyfle i atgoffa'r gorllewin bod gan Rwsia arfau a thaflegrau modern i'w defnyddio mewn unrhyw wrthdaro.
"I'r rhai sy'n caniatáu datganiadau o'r fath iddynt eu hunain ynghylch Rwsia, rwyf am eich hatgoffa bod gan ein gwlad hefyd ddulliau amrywiol o ddinistrio, a gydg arfau mwy modern na gwledydd NATO, a phan fod bygythiad tiriogaethol i'n gwlad, byddwn yn ei hamddiffyn.
"Byddwn yn sicr yn defnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael i ni," ychwanegodd.
Dywedodd gweinidog tramor Prydain, Gillian Keegan, fod geiriau Vladimir Putin angen cael eu cymryd o ddifri, a bod ei gynlluniau yn peri gofid.
Mae disgwyl i Arlywydd yr UDA, Joe Biden, feirniadu cynlluniau'r Kremlin mewn araith yng Nghynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ddydd Mercher.
Llun: Swyddfa Arlywydd Rwsia