Prinder staff yn effeithio ar allu Llywodraeth Cymru i gyflawni amcanion
Mae pwysau sylweddol o ran y gweithlu a phrinder staff wedi ei gwneud hi'n anodd i Lywodraeth Cymru wireddu rhai o'i huchelgeisiau yn ôl y corff sy'n archwilio cyfrifon Llywodraeth Cymru.
Yn ei adroddiad, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cyfeirio at yr heriau yn sgil pandmeig Covid-19 a bod "y pwysau hynny wedi effeithio ar allu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hamcanion."
Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth Newyddion S4C ei bod yn y broses o ddatblygu cynllun strategol ar gyfer y gweithle.
Mae'r adroddiad newydd gan swyddfa Archwilio Cymru yn nodi'r niferoedd sydd wedi gadael eu swyddi gyda Llywodraeth Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Bu 9% o ostyngiad mewn staff cyfwerth a llawn amser rhwng 2009-10 a 2021-22.
"Rhwng mis Ebrill 2010 a mis Mawrth 2021, fe adawodd 1,544 o aelodau o staff Llywodraeth Cymru gyda phecynnau diswyddo neu ymddeol yn gynnar, gyda'r mwyafrif llethol ar delerau gwirfoddol."
£72.1 miliwn oedd cyfanswm cost hynny, yn ôl yr archwilydd.
Ychwanega nad yw nifer o swyddi gwag wedi eu llenwi gyda hynny'n arwain at flinder ymhlith rhai adrannau, a'r angen i ganolbwyntio ar y tasgau mwyaf hanfodol.
Mae'r ffactorau hynny wedi effeithio ar wasanaethau mewn nifer o feysydd, yn ôl yr adroddiad.
Ac yn ôl yr archwilydd, mae Arolygiaeth Gofal Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, sy’n rhan o Lywodraeth Cymru " wedi ei chael yn anodd cyflawni eu rhaglenni arolygu oherwydd prinderau staff a chyfyngiadau ar recriwtio i swyddi allweddol. "
'Ymhell o adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth'
Mae cyfran y staff sy’n anabl a’r gyfran sydd o grwpiau ethnig lleiafrifol wedi codi ychydig, medd yr adroddiad.
"Ond mae’r ddwy’n dal ymhell o fod yn adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth." yn ôl yr archwilydd.
Mae gan Lywodraeth Cymru darged i recriwtio 20% o’r staff sy'n cael eu penodi'n allanol o bob grŵp erbyn 2026 er mwyn cynyddu cynrychiolaeth.
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn yr adroddiad yn dangos nad yw'r targed hwnnw o fewn gafael Llywodraeth Cymru.
Yn 2019-20, roedd 5.9% o’r ymgeiswyr allanol yn anabl ac roedd 7.2% o grŵp ethnig lleiafrifol.
'43% o'r uwch wasanaeth sifil yn fenywaidd'
Mae'n nodi fod cynnydd "cyfyngedig" o ran cau'r bwlch rhwng cyflogau dynion a menywod, gyda 7.4% o fwlch .
Mae oddeutu 59% o staff yn fenywaidd, ond mae’r gyfran yn gostwng i 43% o’r uwch wasanaeth sifil.
"Yr anghydbwysedd hwn yn yr uwch rolau â chyflogau uwch sy’n gyfrifol am lawer o’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau," medd yr archwilydd.
Sgiliau Cymraeg y gweithlu
Mae Llywodraeth Cymru ymhell o'i nod hefyd ym maes y Gymraeg, yn ôl yr ystadegau yn yr adroddiad.
"Mae Llywodraeth Cymru’n anelu at ddod yn sefydliad dwyieithog erbyn 2050 a fyddai'n golygu bod ei holl staff o leiaf yn gallu deall Cymraeg."
Yn 2020-21, roedd 24% o staff Llywodraeth Cymru’n gallu deall Cymraeg ar y lefel sy’n ofynnol i weithio’n ddwyieithog.
Mae'r arolygon staff yn awgrymu fod rhuglder mewn Cymraeg wedi bod yn weddol sefydlog, sef 16-17% o staff, am nifer o flynyddoedd, ond bod gostyngiad yng nghyfran y staff sydd heb sgiliau Cymraeg o gwbl.
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi fod Brexit wedi arwain at 3,500 o gyfrifoldebau cyfreithiol newydd ar gyfer Gweinidogion Cymru.
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r pedair blynedd diwethaf wedi bod yn hynod o heriol i sefydliad cyhoeddus ac rydym wedi gwneud popeth yn ein gallu i ymateb yn broffesiynol ac yn hyblyg i'r cyfnod yma.
"Rydym yn datblygu cynllun strategol ar gyfer y gweithle gyda'r bwriad o sicrhau mae gennym y bobl gywir gyda'r sgiliau cywir yn y llefydd cywir i gyflawni amcanion y Cabinet dros y tair blynedd nesaf."