Newyddion S4C

Beirniadu Cyngor Powys am 'ddiffyg gweithredu' ar addysg Gymraeg

Beirniadu Cyngor Powys am 'ddiffyg gweithredu' ar addysg Gymraeg

Newyddion S4C 20/09/2022

Mae un fam o’r Gelli Gandryll wedi ysgrifennu llythyr agored at Gyngor Powys yn mynegi ei phryder y bydd ei mab yn gorfod teithio dros awr i gyrraedd Ysgol Ystalyfera, sef yr ysgol uwchradd uniaith Gymraeg agosaf.

Mae ei mab ar hyn o bryd mewn ysgol gynradd Gymraeg yn Aberhonddu.

"Does dim 'da ni ysgol gyfun iddo mynd i, does dim ysgol uwchradd yn holl Sir Powys sydd yn un cyfrwng Cymraeg. Ma' 'da ni ffrwd Cymraeg yn ambell i ysgol, ond dim ysgol uwchradd iaith Gymraeg yn unig."

Ar hyn o bryd nid oes ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ym Mhowys.

Yn 2021 daeth cyhoeddiad y byddai Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth yn troi'n ysgol Gymraeg yn raddol, gyda rhai blynyddoedd eto cyn y bydd hynny wedi ei gyflawni'n llwyr. 

Symudodd Rose a’i theulu o Lundain i’r Gelli Gandryll er mwyn sicrhau bod ei mab Idris sydd ym mlwyddyn dau yn gallu derbyn ei addysg trwy’r Gymraeg.

Gallai Rose anfon ei mab i ysgol cyfrwng Saesneg gyfagos, ond mae'n dweud y byddai hynny’n "drueni" ar ôl symud yn ôl i Gymru.

"Roedd tyfu lan trwy’r Gymraeg yn bwysig i fi fel rhan o'n stori i yn tyfu lan, a fi ishe'r un peth i fe," meddai.

Image
ROSE
Symudodd Rose a'i theulu o Lundain i'r Gelli Gandryll.

'Diffyg gweithredu'

Fe ysgrifennodd Rose lythyr at Gyngor Powys, yn galw arnyn nhw i gymryd y sefyllfa o ddifri.

Er ei bod wedi anfon a’i gyhoeddi yn y wasg leol a chenedlaethol, mae’n dal i aros am ymateb swyddogol gan gabinet yr awdurdod.

Yn ôl y cynghorydd Plaid Cymru Elwyn Vaughan, mae diffyg gweithredu dros y Gymraeg yn hen hanes ym Mhowys.

"Yn hanesyddol mae ‘na ddifyg gweithredu," meddai.

"Powys 'di’r unig sir yng Nghymru gyfan sydd â chanran îs yn cael mynediad at addysg Gymraeg na chanran o siaradwyr Cymraeg.

"Mae rhaid gweithredu a newid gêr, dyna’r her i Bowys."

Mae gan Gyngor Powys Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032, sydd yn anelu at gynyddu darpariaeth addysg Gymraeg yn raddol dros y 10 mlynedd nesaf.

Image
ELIN
Mae Elin Maher yn Gyfarwyddwr Cenedlaethol ar fudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg.

'Ddim yn deg'

Ond mae rhai ymgyrchwyr yn dweud bod y cynllun ddim yn ddigon uchelgeisiol a bod cenhedlaeth o blant yn colli’r cyfle i dderbyn addysg Gymraeg yn y cyfamser.

Elin Maher yw Cyfarwyddwr Cenedlaethol mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg.

"Ma’ 'na bump i ddeg mlynedd o flynyddoedd o blant hefyd wedi colli mas ar ddarpariaeth Gymraeg hefyd, a dyw hynny ddim yn deg," meddai.

"Os mai diffyg cyllid sydd yn rhwystro awdurdodau lleol rhag datblygu, yna ma'n rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb i'r sefyllfa hon, a pheidio gadael i dwf addysg Gymraeg i lesteirio yn yr ardaloedd hynny lle dyw rhieni ddim yn gwybod lle i fynd."

'Cyfle hanfodol'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys: “Mae’r cyngor sir yn cydnabod nad oes gan bob ardal ym Mhowys fodd o gyrraedd addysg gynradd ac uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn, mae’r cyngor wedi datblygu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032, a gymeradwywyd gan y Cabinet a Llywodraeth Cymru.

“Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, sydd bellach mewn grym, wedi’i wneud yn gydnaws â Strategaeth Trawsnewid Addysg ym Mhowys, ac mae’n darparu cyfle hanfodol i ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg ar draws y sir am y deng mlynedd nesaf.

“Bydd y cyngor nawr yn paratoi cynllun gweithredu ar gyfer pum mlynedd gyntaf y strategaeth erbyn diwedd tymor yr Hydref.”

Dywedodd llefarydd dros Lywodraeth Cymru: “Rydym wedi cytuno Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Powys, sy’n cynnwys uchelgais i gynyddu nifer y disgyblion blwyddyn 1 cyfrwng Cymraeg o 14% i 36% dros y 10 mlynedd nesaf.

"I gyrraedd y nod hwnnw, mae Powys wedi ymrwymo i sefydlu darpariaeth uwchradd Gymraeg mewn o leiaf tair ardal ym Mhowys.

“Mae gan bob sir yng Nghymru gyfraniad pwysig i’w wneud i’n uchelgais o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.

"Mae ymrwymiadau i greu 23 o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg newydd ledled Cymru dros y 10 mlynedd nesaf.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.