Dyn yn y llys ar gyhuddiad o geisio llofruddio yn Aberafan
20/09/2022
Mae dyn 50 oed wedi ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Mawrth ar gyhuddiad o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad yn Aberafan nos Sadwrn.
Cafodd Adam Calland o Aberafan ei gadw yn y ddalfa.
Daeth yr heddlu o hyd i fwa croes mewn eiddo ar Ffordd Fictoria yn y dref yn dilyn y digwyddiad.
Mae dyn 32 oed yn parhau yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd mewn cyflwr sefydlog.
Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth ond hefyd wedi dweud nad ydynt yn chwilio am unrhyw un arall yn gysylltiedig â’r digwyddiad.