
Comisiynu cerflun i gofio Twm Carnabwth
Comisiynu cerflun i gofio Twm Carnabwth
Bydd cerflun o Twm Carnabwth yn cael ei gomisiynu, wedi i'r syniad gael ei drafod mewn cyfarfod yn Efail-wen nos Fawrth.
Twm, neu Thomas Rees oedd arweinydd cyntaf Merched Beca, a ddinistriodd dollborth Efail-wen droeon yn 1839.
Yr ymosodiad ar dollborth Efail-wen ar 13 Mai 1839 , oedd y gyntaf mewn cyfres o brotestiadau dros gyfnod o bedair blynedd gan ffermwyr a phobl gyffredin, yn erbyn trethi uchel ac annheg.
Cyhoeddodd yr awdur Hefin Wyn gyfrol ar ddechrau'r haf, Ar Drywydd Twm Carnabwth: Hanes Dechrau Gwrthryfel Becca.
A hynny ysgogodd y drafodaeth yn lleol am gerflun i gofio cyfraniad un o arweinwyr Merched Beca.
Mae Twm Carnabwth wedi ei gladdu ym mynwent Capel Bethel ym Mynachlog-ddu. Ac mae bwrdd gwybodaeth wedi ei godi ar Fferm Glynsaithmaen, ar gyrion y pentref yn ddiweddar, gan mai mewn ysgubor ar y fferm honno y daeth Twm a gweddill Merched Beca ynghyd i gynllunio'r ymosodiad cynta yn 1839.
Ond mae angen cerflun teilwng hefyd yn ôl Eurfyl Lewis, un o drefnwyr y cyfarfod.
"Mae hyn wedi cael ei godi ers blynyddoedd mawr," meddai.
"Achos naethon ni gofnodi cant a hanner o flynyddoedd ers y terfysg nôl ar y 13eg o Fai 1989 pan sgwennodd Tecwyn Ifan y gan, Ysbryd Rebecca , felly ma' hynny'n mynd nôl 33 mlynedd."

"A wedyn yn 2014, i nodi 175 mlynedd ers ymosodiad cynta Efail-wen, fe naethon ni gynnal digwyddiad i gofio, ac ail greu'r foment pan gaofdd yr iet ei dymchwel.
"Felly mae'r amser wedi dod i drafod syniadau am gerflun."
Fe fydd y gerflun yn cael ei godi ger Caffi Beca yn yr Efail-wen. Yn ôl Hefin Wyn, ysgrifennydd y gymuned tu ôl i'r gerflun, dyma'r cam gyntaf o'r broses hir.
"Ni di gwthio'r cwch i'r ddwfn a phenderfynu ar leoliad," meddai wrth Newyddion S4c.
"Mae perchennog y caffi yn awyddus iawn ac yn frwdfrydig iawn dros y prosiect.
"Mae'r syniad yma o osod cerflun o arwr lleol yn ei blesio'n fawr iawn."