Liz Truss: 'Cymorth milwrol Wcráin i barhau yr un peth yn 2023'

Mae Prif Weinidog y DU, Liz Truss, wedi datgan y bydd cymorth milwrol Prydain i Wcráin yn parhau'r un peth yn 2023.
Yn ei thaith dramor cyntaf fel prif weinidog, bydd Ms Truss yn teithio i Efrog Newydd ar gyfer Cynulliad Cyffredinol blynyddol y Cenhedloedd Unedig. Yno bydd yn cwrdd â Joe Biden ac Emmanuel Macron.
Mae disgwyl iddi bwysleisio ymrwymiad hirdymor Prydain i Wcráin yn ogystal â'r angen i leihau pa mor ddibynnol mae gwledydd ar Rwsia o ran ynni.
Y DU ydy'r ail wlad fwyaf o safbwynt buddsoddiad milwrol i Wcráin, wedi iddi fuddsoddi £2.3bn yn 2022 gan ddarparu cannoedd o rocedi a systemau amddiffyn awyr.
Darllenwch fwy yma.