A fydd angladd fel un y Frenhines Elizabeth II byth yn cael ei gynnal eto?

A fydd angladd fel un y Frenhines Elizabeth II byth yn cael ei gynnal eto?
Mae'r hanesydd Dr Elin Jones yn amau a fydd angladd tebyg i un y Frenhines Elizabeth II fyth yn cael ei gynnal eto.
Yn dilyn y diwedd ar y cyfnod o alaru cyhoeddus swyddogol i'r cyhoedd am hanner nos ddydd Llun, dywedodd yr hanesydd ar raglen Newyddion S4C bod y gost o gynnal angladd tebyg yn ormod o faich, a hynny yn sgil yr argyfwng costau byw hefyd.
"Dwi'n teimlo newn ni ddim gweld angladd fel hyn byth eto achos dwi'n meddwl bod 'na gost ar y wlad, bydden nhw'n gallu fforddio hyn?"
Mae hi hefyd yn meddwl bod hi'n amser i'r frenhiniaeth newid, ond yn ansicr i ba gyfeiriad y bydd hynny'n mynd.
"Fe fydd rhaid iddi newid, ni wedi gweld rhai fan newidiadau yn barod o ran menywod yn cael cymryd mwy o ran mewn pethau.
"Ond pa fath o goroni bydd? Dwi ddim yn gwybod, mae'r dyfodol yn amheus iawn."