Y Cymry sydd wedi teithio i Lundain ar gyfer angladd y Frenhines

Y Cymry sydd wedi teithio i Lundain ar gyfer angladd y Frenhines
Ymysg y cannoedd o filoedd o bobl sydd wedi ymgynnull yn Llundain ar gyfer angladd y Frenhines, mae yna nifer o Gymry sydd wedi teithio i dalu teyrnged i Elizabeth II.
Dyma'r angladd gwladol cyntaf i gael ei gynnal yn y Deyrnas Unedig ers 1965 ac mae torfeydd o bobl wedi teithio i Lundain er mwyn bod yn rhan o'r achlysur.
Yn ôl Transport for London, mae disgwyl i filiwn o bobl ymgynnull yng nghanol Llundain ar gyfer yr angladd.
Mae rhaglen Newyddion S4C wedi bod yn holi rhai o'r Cymry sydd wedi penderfynu teithio i Lundain.
"Da ni yma ers rhyw chwarter i chwech," meddai Andrea o Sir Fôn.
"O'n i jyst yn teimlo bod rhaid i fi bod yma heddiw."
I nifer sydd wedi ymuno gyda'r torfeydd, mae'r diwrnod yn gyfle i fod yn rhan o hanes.
"Mae'n peth ti ond yn gallu neud unwaith," dywedodd Ronnie o Langollen.
"Nawn ni byth cael rhywbeth fel hyn eto am amser hir."
Mae Trystan, sydd o Ynys Môn wedi teithio i Lundain o'i gartref yng Nghaergrawnt, ac yn teimlo yr un peth am y diwrnod.
"Bydd rhywbeth fel hyn byth yn digwydd eto swn i'n dweud, felly pam ddim de?
"Dwi'm isho dweud lle braf, ond mae 'na lot o bobl yn siarad, yn neud ffrindiau, pob math o beth.
"Felly mae'r experience yn rhywbeth nai fyth anghofio."