Arlywydd Biden: 'America i amddiffyn Taiwan pe bai China yn ymosod'
Mae'r Arlywydd Biden wedi dweud y byddai'r UDA yn amddiffyn Taiwan pe bai China yn ymosod ar y wlad.
Wrth siarad ar raglen CBS News, fe wnaeth yr arlywydd ymateb gydag ateb cadarnhaol pan ofynwyd iddo os y byddai "lluoedd, dynion a merched yr UDA yn amddiffyn Taiwan pe bai China yn ymosod."
Daw hyn wrth i densiynau barhau i gynyddu yn sgil ymdrechion gan lywodraeth China i fygwth Taiwan drwy daflu taflegrau i'r môr cyfagos a hedfan awyrennau milwrol.
Ym mis Awst, fe wnaeth llefarydd Tŷ Cynrychiolwyr America, Nancy Pelosi, addo solidariaeth "hanfodol" gyda Taiwan yn sgil y bygythiad milwrol gan China wedi iddi gyfarfod gydag Arlywydd Taiwan, Tsai Ing-wen.