Gerwyn Price yn ennill Pencampwriaeth Dartiau'r Byd

19/09/2022
Gerwyn Price

Mae'r Cymro Gerwyn Price wedi ennill Pencampwriaeth Dartiau'r Byd nos Sul.

Fe wnaeth rhif 1 rhestr detholion y byd dartiau guro Dirk van Duijvenbode o'r Iseldiroedd o 11 rownd i 10 yn y rownd derfynol yn Amsterdam. 

Dyma'r ail dro mewn tair blynedd i Price ennill, wedi iddo gipio'r teitl yn 2020 hefyd. 

Roedd ffafriaeth y gynulleidfa yn Amsterdam tuag at gwrthwynebydd Price yn heriol iddo ar adegau, ond dywedodd ei fod yn "fwy na phrofiadol efo'r mathau hyn o gynulleidfaoedd ond dwi'n falch fy mod i wedi llwyddo i ennill."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.