Cynnal munud o dawelwch ar draws y DU i gofio am y Frenhines Elizabeth II

18/09/2022
Y Frenhines Elizabeth - Llun Y Teulu Brenhinol

Cafodd munud o dawelwch ei chynnal ar draws y Deyrnas Unedig am 20:00 nos Sul i adlewyrchu ar fywyd a theyrnasiad y Frenhines Elizabeth II.

Mae disgwyl i’r ciw i weld arch y Frenhines yn Llundain gael ei gau yn hwyrach nos Sul cyn ei hangladd ddydd Llun.

Mae pobl wedi aros mewn rhes am gyfnodau o hyd at 24 awr er mwyn gweld yr arch yn Neuadd Westminster.

Mae disgwyl i'r galarwyr olaf gerdded heibio'r arch am 6:30 fore dydd Llun.

Bu farw Ei Diweddar Mawrhydi ddydd Iau, 8 Medi, yn 96 oed.

Mewn datganiad a gafodd ei ryddhau ar y pryd, dywedodd y Teulu Brenhinol ei bod wedi "huno'n dawel" yng Nghastell Balmoral yn Swydd Abderdeen.

Bydd yr angladd gwladol yn cael ei gynnal ddydd Llun, gyda disgwyl i filiynau o bobl ar draws y byd wylio'r darllediad.

Llun: Teulu Brenhinol

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.