Un person yn derbyn triniaeth yn dilyn tân yng Nghaernarfon
18/09/2022
Un person yn derbyn triniaeth yn dilyn tân yng Nghaernarfon
Mae un person yn derbyn triniaeth am effeithiau anadlu mwg yn dilyn tân “difrifol" yng Nghaernarfon ddydd Sul.
Cafodd ymladdwyr tân eu galw i’r eiddo ar Ffordd Ysgubor Goch am tua 09:30.
Bu’n rhaid i gymdogion symud o’u cartrefi ac mae’r cyhoedd wedi cael eu cynghori i gadw draw o’r ardal.
Bu’n rhaid cau’r ffordd wrth i Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ymchwilio i’r digwyddiad.
Cafodd tri o beiriannau ymladd tân eu danfon i’r digwyddiad.