Clwb Pêl-droed Caerdydd yn diswyddo eu prif hyfforddwr Steve Morison
18/09/2022
Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi diswyddo eu prif hyfforddwr Steve Morison.
Daw hyn yn sgil colled arall i’r adar gleision ddydd Sadwrn yn Huddersfield o 1-0.
Mae Caerdydd yn yr 18fed safle yn y Bencampwriaeth ac wedi ennill dim ond un gêm allan o’r pump diwethaf.
Mewn datganiad, dywedodd y clwb: “Hoffem ddiolch i Steve am ei ymdrechion yn ystod ei amser gyda Chaerdydd, gan sefydlogi’r tîm cyntaf a helpu’r garfan i esblygu yn unol ag athroniaeth y clwb yr haf yma. Dymunwn yn dda iddo yn y dyfodol."
Dywedodd y clwb fe fydd Mark Hudson yn cymryd yr awenau wrth i’r clwb drafod opsiynau am y rôl.
Llun: Asiantaeth Huw Evans