Heddlu’n ymchwilio i ‘ymosodiad difrifol’ ym Mhort Talbot
18/09/2022
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio yn dilyn ymosodiad difrifol ar ddyn ym Mhort Talbot nos Sadwrn.
Cafodd swyddogion eu galw i ardal Ffordd Fictoria a Ffordd y Dywysoges Margaret yn ardal Sandfields y dref.
Cafodd dyn ei gludo i’r Ysbyty yn dilyn y digwyddiad.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi arestio dyn mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Roedd y ffordd ar gau am rai oriau ac mae ymchwiliadau’r heddlu yn parhau.
Llun: Google